Tafarn y Golden Cross, Caerdydd

tafarn yn Nhre-Biwt

Tafarn yw'r Golden Cross yng nghanol Caerdydd. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1903, yn nodedig am ei deils ceramig, ac wedi ei restru gyda Gradd II.[1][2]

Tafarn y Golden Cross, Caerdydd
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadcanol dinas Caerdydd, Tre-Biwt Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr8.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.47707°N 3.17439°W Edit this on Wikidata
Cod postCF10 1GH Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Mae tafarn wedi bodoli ar y safle ers 1849. Fe'i hail-enwyd yn The Golden Cross yn 1863.[1] Tua 1903/4 fe'i hail-adeiladwyd yn y ffurf bresennol (mae'r teils yn y bar wedi eu dyddio 1903).[2]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ceisiodd yr arweinydd ffasgaidd Oswald Mosley gynnal cyfarfod yn y dafarn ond fe wnaeth gwrthwynebiad treisgar ei orfodi nôl i Lundain.[1]

Roedd bygythiad i ddymchwel y dafarn yn 1979 ond achubwyd ar adeilad ar ôl ymgyrch bapur newydd lleol.[1] Roedd wedi cael ei restru yn 1975.[2]

21ain ganrif

golygu

Daeth y Golden Cross yn dafarn hoyw boblogaidd, gydag adloniant a pherfformwyr drag rheolaidd. Yn 2004, fe'i pleidleisiwyd y dafarn hoyw gorau yn y DU.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Brian Lee: Golden memories of Cardiff's Golden Cross pub". Wales Online. 26 October 2012. Cyrchwyd 6 May 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Golden Cross Public House, Butetown". British Listed Buildings. Cyrchwyd 6 May 2015.
  3. "The Golden Cross". Cardiffpubs.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 6 Mai 2015.

Dolenni allanol

golygu