Perfformiad o grefft llwyfan lle mae person (tafleisydd) yn newid ei lais fel ei bod yn ymddangos bod y llais yn dod o rywle arall, fel arfer pyped, yw tafleisiaeth, bol-lafariaeth neu dafleisio.

Y tafleisydd The Great Lester gyda Frank Byron, Jr. ar ei ben-glin, tua 1904

Bol-lafariaeth a chyfriniaeth

golygu

Arfer grefyddol oedd 'bol-lafariaeth' yn wreiddiol.[1] Mae'r enw Saesneg 'ventriloquism' yn dod o'r Lladin am siarad o'r stumog, h.y. venter (bol) a loqui (siarad).[2] Credid mai'r synau a gynhyrchir gan y stumog oedd lleisiau'r rhai nad oeddent yn byw, a oed wedi ymgartrefu ym mol y bol-lefarydd. Byddai'r bol-lefarydd wedyn yn dehongli'r synau, gan y credid eu bod yn gallu siarad â'r meirw, yn ogystal â rhagfynegi'r dyfodol. Un o'r grwpiau cynharaf o broffwydi i ddefnyddio'r dechneg hon oedd y Pythia, yr offeiriad yn deml Apollo yn Delphi, a fu'n gweithredu fel sianel ar gyfer y Oracl Delphi.

Un o'r bol-lafarwyr cynnar mwyaf llwyddiannus oedd Eurykles, proffwyd yn Athen; cyfeiriwyd at fol-lafarwyr fel Euryklides er anrhydedd iddo.[3] Yn yr Oesoedd Canol, credid ei fod yn debyg i ddewiniaeth. Byddai rhai yn honni eu bod yn gyfryngwyr neu'n gallu bwrw allan ysbrydion drwg, a bod taflu'r llais yn ychwanegu at eu hygrededd. Nid oedd yn anarferol i ferched (yn enwedig) a wnai hyn i gael eu cyhuddo a'u llosgi fel gwrachod. Gan fod Ysbrydegaeth wedi arwain at lwyfannu hud a ddihangeg, felly daeth tafleisiaeth yn fwy o gelf berfformio wrth iddo ymadael â'r elfennau cyfriniol.

Mae gan rannau eraill o'r byd hefyd draddodiad o dafleisiaeth at ddibenion defodol neu grefyddol; yn hanesyddol mae pobl wedi bod yn glynu wrth yr arfer hwn ymhlith pobloedd Zulu, Inuit, a Māori.[3]

Tafleisiaeth fel adloniant

golygu

Yn ystod y 18g y daeth tafleisiaeth yn fwy o adloniant yn y ddeunawfed ganrif, a hynny mewn ffeiriau teithiol a threfi marchnad.

Erbyn diwedd y 18g, roedd perfformiadau tafleisiaeth wedi sefydlu eu hunain fel ffurf o adloniant yn Lloegr, er bod y rhan fwyaf o berfformwyr yn taflu eu llais i wneud iddo ymddangos ei fod yn deillio o bell, yn hytrach na'r dull modern o ddefnyddio pyped. Mae Joseph Askins, a fu'n perfformio yn y Sadler's Wells Theatre yn Llundain yn y 1790au, yn hysbysebu ei weithred fel "deialog ad libitum rhyfeddol rhyngddo ef a'i gyfarwydd anweledig, Tommy Bach".[4] Fodd bynnag, roedd perfformwyr eraill yn dechrau ymgorffori doliau neu bypedau i'w perfformiadau.

Cyrhaeddodd yr adloniant frig ei boblogrwydd yng nghyfnod y neuadd gerddoriaeth a'r vaudeville. Dechreuodd George Sutton ymgorffori pyped i'w gyflwyniadau yn Nottingham yn y 1830au, ond Fred Russell sy'n cael ei ystyried fel tad tafleisiaeth fodern. Yn 1886, cynigiwyd lle iddo yn y Palace Theatre yn Llundain a dechreuodd ar ei yrfa lwyfan yn barhaol. Roedd ei act yn seiliedig ar fachgen bach digywillydd o'r enw “Coster Joe” a fyddai'n eistedd ar ei lin ac yn 'cymryd rhan mewn deialog' gydag ef. Bu'n ddylanwadol iawn a mabwysiadwyd y ffurf hon o adloniant gan y genhedlaeth nesaf o berfformwyr.

Cafodd fformat llwyddiannus tîm comedi Fred Russell ei gymhwyso gan y genhedlaeth nesaf o dafleiswyr. Cafodd ei ddatblygu ymhellach gan Arthur Prince a'i ddol 'Sailor Jim', a daeth yn un o'r diddanwyr â chyflog uchaf ar y gylched neuadd gerdd. Cafodd y grefft ei datblygu hefyd gan yr Americanwyr The Great Lester, Frank Byron, Jr, ac Edgar Bergen. Fe wnaeth Bergen boblogeiddio'r syniad o'r tafleisydd digrif. Byddai Bergen, ynghyd â'i hoff byped, Charlie McCarthy, yn cynnal rhaglen radio a ddarlledwyd 1937-1956. Bu'n rhaglen hon yn #1 ar y nosweithiau y cafodd ei darlledu. Parhaodd Bergen i berfformio nes y bu farw ym 1978, ac fe ysbrydolodd ei boblogrwydd lawer o dafleiswyr enwog eraill, gan gynnwys Paul Winchell, Jimmy Nelson, David Strassman, Jeff Dunham, Terry Fator, Ronn Lucas, Wayland Flowers, Shari Lewis, Willie Tyler, Jay Johnson, Nina Conti, Paul Zerdin, a Darci Lynne Farmer. Tafleisydd arall oedd yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn y 1950au a'r 1960au oedd Señor Wences.

Tafleisiaeth yng Nghymru

golygu

Mae tafleiswyr yn y Gymraeg yn cynnwys Al Roberts a'i ddoliau 'Taid' a 'Nain', a Glyn Foulkes Williams a 'Taid'. Ymhlith yr artistiaid eraill sydd wedi defnyddio'r dechneg hon mewn blynyddoedd mwy diweddar, mae Elfed ac 'Wcw', Mici a 'Tilsli', ac Ifan a 'Carlo'.

Ymddangosodd y Cymro Mervyn Johns yn y ffilm 'Dead of Night' (1945) sy'n cynnwys tafleisiwr yn y stori.

Tafleisiaeth yn India

golygu

Cafodd y grefft o dafleisio ei phoblogeiddio gan YK Padhye yng Ngogledd India ac MM Roy yn Ne India, a chredir eu bod yn arloeswyr y maes hwn yn India. Gwnaeth mab YK Padhye, Ramdas Padhye, y crefft yn boblogaidd ymhlith y bobl trwy ei berfformiadau ar y teledu. Mae mab Ramdas Padhye Satyajit Padhye hefyd yn dafleisydd. Yn yr un modd, mae Indusree, tafleisydd o Bangalore, wedi cyfrannu llawer at y grefft. Mae hi'n perfformio gyda thri pyped yr un pryd. Bu Venky Monkey a Mimicry Srinivos, disgyblion MM Roy, yn gyfrifol am boblogeiddio tafleisio drwy gynnal sioeau yn India a thramor. Gwnaeth Srinivos Mimicrist, yn arbennig, nifer o arbrofion mewn tafleisiaeth. Mae wedi poblogeiddio'r gelfyddyd hon, gan ei alw'n "Rhith sain". Mae'n mynd i mewn i'r gynulleidfa heb feicroffon ac yn diddanu gyda rhith sain yn ogystal â diddanu ar y llwyfan gyda doliau.  

Tafleisiaeth yn y 21g

golygu

Collodd tafleisiaeth ei boblogrwydd am ychydig. Dim ond 15 o dafleiswyr proffesiynol llawn-amser oedd yng ngwledydd Prydain erbyn 2010, o'i gymharu â tua 400 yn y 1950au a'r 60au.[5] Mae nifer o dafleiswyr modern wedi datblygu dilyniant wrth i ddiddordeb y cyhoedd mewn comedi fyw gynyddu. Yn 2007, enillodd Zillah & Totte dymor cyntaf Sweden's Got Talent a daeth yn un o ddiddanwyr teulu / plant mwyaf poblogaidd Sweden. Rhyddhawyd rhaglen ddogfen nodwedd am dafleisiaeth, I'm No Dummy, yn 2010.[6] Enillodd dau dafleisydd dymhorau 10 a 12 o America's Got Talent, sef Paul Zerdin yn 2015 a Darci Lynne Farmer yn 2017.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Howard, Ryan (2013). Punch and Judy in 19th Century America: A History and Biographical Dictionary. McFarland. p. 101.
  2. The Concise Oxford English Dictionary. 1984. t. 1192. ISBN 0-19-861131-5.
  3. 3.0 3.1 Encyclopædia Britannica Eleventh Edition, 1911, Ventriloquism.
  4. John A. Hodgson. "An Other Voice: Ventriloquism in the Romantic Period". Erudit.
  5. "Return of the dummy run". 25 May 2010.
  6. "Hollywood's Corporate Delusion". Digital Cinema Report. 9 June 2009.