Taglys arfor
Calystegia soldanella | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Solanales |
Teulu: | Convolvulaceae |
Genws: | Calystegia |
Rhywogaeth: | C. silvatica |
Enw deuenwol | |
Calystegia soldanella Pál Kitaibel |
Planhigyn blodeuol siap twmffat yw Taglys arfor sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Convolvulaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Calystegia soldanella a'r enw Saesneg yw Sea bindweed.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Taglys Arfor, Carn yr Ebol y Môr, Cynghafog Arfor, Cynghafog y Môr, Ebolgarn y Môr, Ebolgarn y Tywod.
Perthynas â phobl
golyguY tu ôl i draeth Coilleag a' Phrionnsa (traeth y tywysog), Eriskay, Ynysoedd Heledd yr Alban mae carnedd a godwyd gan blant yr ysgol leol i gofio am ddigwyddiad sydd o bwys hanesyddol llawer mwy, sef glanio'r Tywysog Charles Edward Stuart yng Ngorffennaf 1745 yno ar achlysur ei gais ofer i hawlio'r goron. Honnir bod y taglys arfor yno (sydd yn cyrraedd ei leoliad mwyaf diarffordd a gogledd-gorllewinol ym Mhrydain [Ewrop?] ar yr ynys) yn deillio o hadau a ddisgynnodd o boced y tywysog ar y pryd.[2]
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Christine Smith, Guardian Country Diary 15 Gorff 2011 ym Mwletin Llên Natur rhifyn 43 [1]