Penry Williams

peintiwr

Arlunydd Cymreig oedd Penry Williams (cyn 2 Chwefror 180027 Gorffennaf 1885), a gofir am ei dirluniau o dde Cymru a Rhufain.

Penry Williams
Ganwyd1802 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1885, 1885 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Hanes golygu

 
Paentiad o ffynnon (1859).
 
"Tu mewn i Waith Haearn Cyfarthfa yn y Nos" (1825).

Ganed Williams ym Merthyr Tudful, Morgannwg yn 1800 yn fab i'r saer cerrig William Williams.[1] Dechreuodd beintio yn ifanc. Mae ei beintiadau cynnar yn cynnwys Merthyr Riots (1816), sy'n darlunio Terfysgoedd Merthyr. Ei ysgolfeistr ym Merthyr oedd Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo), mab Iolo Morganwg. Mae'n bosibl mai Taliesin a ysbrydolodd Williams (ac eraill) i ddilyn gyrfa fel artist.[2]

Aeth i astudio yn ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain yn 1822, efallai trwy nawdd y meistr haearn William Crawshay. Yno bu'n fyfyriwr dan gyfarwyddyd Johann Heinrich Füssli (Henry Fuseli), yr artist mawr o'r Swistir.

Yn 1826, symudodd Williams i ymgartrefu yn Rhufain. Er iddo ddychwelyd i Gymru yn bur aml, arosodd yn Rhufain am weddill ei oes a bu farw yno yn 1885. Daeth yn gyfaill i arlunwr arall o Gymru, sef John Gibson. Cafodd 34 yn arddangosfa yn yr Academi Frenhinol rhwng 1822 a 1869, yn cynnwys portreadau o John Gibson a'r Arglwyddes Charlotte Guest, cyfieithydd y Mabinogion.[1]

Casgliadau golygu

Ceir casgliad o ddyfrliwiau cynnar Penry Williams yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Y Bywgraffiadur Arlein
  2. 2.0 2.1 "Casglu'r Tlysau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-11. Cyrchwyd 2009-09-19.

Dolenni allanol golygu