Chefchaouen

(Ailgyfeiriad o Chaouen)

Dinas ym Moroco yw Chefchaouen (Berbereg: Accawn, Arabeg: الشاون‎, Sbaeneg: Chauen). Cyfeirir ati ar lafar fel Chaouen hefyd. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Rif yng ngogledd-orllewin Moroco, i'r de o Tanger a heb fod nepell o ddinas Tétouan. Poblogaeth: 35,709 (2004).

Chefchaouen
Mathdinas, urban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth42,786 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1471 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Testour, Mértola, Ronda, Issaquah, Washington, Kunming Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Chefchaouen Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr564 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.1714°N 5.2697°W Edit this on Wikidata
Cod post91000 Edit this on Wikidata
Map
Golygfa ym medina Chefchaouen

Sefydlwyd Chefchaouen yn 1471, pan godwyd ei chastell gan Morisgiaid alltud o Sbaen - yn Arabiaid ac Iddewon - dan arweinyddieth Moulay Ali Ben Moussa Ben Rached El Alami, ac fe'i defnyddiwyd i wrthsefyll goresgyniad gogledd Moroco gan y Portiwgaliaid.

Yn 1920, cipwyd Chefchaouen gan Sbaen a daeth yn rhan o'r Moroco Sbaenaidd. Rhoddodd Sbaen y ddinas yn ôl i Foroco yn 1956 pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.

Mae'r dref yn adnabyddus am ei farchnad hashish, ffurf wedi'i brosesu o'r kif (canabis) a dyfir ar raddau eang ym mynyddoedd y Rif.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato