Dinas yng ngogledd Moroco yw Tétouan (enw Berber sy'n golygu "llygaid", Arabeg: تطوان, Sbaeneg: Tetuán; weithiau hefyd Tettawen neu Tettawin yn lleol). Dyma unig borthladd Moroco ar lan y Môr Canoldir, sy'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o Gulfor Gibraltar a thua 40 milltir (60 km) i'r de-ddwyrain o Tanger ac i'r de o alldir Sbaenaidd Ceuta. Mae'n ganolfan weinyddol yr ardal o'r un enw, sy'n rhan o ranbarth Tanger-Tétouan. Poblogaeth: 320,539 (cyfrifiad 2004). Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Sania Ramel.

Tétouan
Mathurban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth380,787 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSanta Fe Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Tétouan Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr90 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.57°N 5.37°W Edit this on Wikidata
Cod post93000 Edit this on Wikidata
Map
Riad al-Ochak, Tétouan

Mae'n un o'r ychydig leoedd ym Moroco a'r Maghreb gyda chymuned bur sylweddol o Gristnogion. Tan y 1950au bu cymuned sylweddol o Iddewon yma hefyd, a ffôdd gyda'r Morisgiaid Arabaidd o Al-Andalus yn Sbaen yn y 15g. Arabeg yw'r iaith gyffredin ond mae lleiafrif yn siarad un o'r ieithoedd Berber ac mae Ffrangeg a Sbaeneg yn ail ieithoedd i nifer o bobl dosbarth canol hefyd.

Yn gorwedd ym mhen gogleddol eithaf mynyddoedd y Rif, mae'r ddinas yn gorwedd rhwng y mynyddoedd hynny a'r môr. Mae'r wlad oddi amgylch yn dir amaethyddol da lle tyfir ffrwythau a llysiau.

Mae medina (hen ddinas) Tétouan wedi ei dynodi gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Enwogion golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato