Dinas ym Moroco yw Asilah (hefyd weithiau Arzila) (Arabeg: أصيلة، أرزيلة‎), a leolir ar ben gogledd-orllewinol Moroco ar lan y Cefnfor Iwerydd, tua 50 km i'r de o Tanger, yn rhanbarth Tanger-Tétouan. Mae'n dref gaerog a amgylchynir gan fur gyda'r pyrth canoloesol gwreiddiol yn dal yn eu lle.

Asilah
Mathurban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth31,147 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethMohamed Benaissa Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSintra Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTangier-Assilah Prefecture Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.47°N 6.03°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMohamed Benaissa Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTreftadaeth ddiwylliannol Moroco Edit this on Wikidata
Manylion
Asilah

Mae ei hanes yn cychwyn tua 1000 CC, pan gafodd ei defnyddio gan y Ffeniciaid fel porth masnach arfordirol. Roedd yn cael ei adnabod fel Zilis. Cefnogodd y Ziliaid ddinas Carthago yn y Rhyfeloedd Pwnig, ac o ganlyniad fe'u gorfodwyd gan y Rhufeiniaid buddugoliaethus i ymadael a sefydlwyd gwladfa o Iberiaid yn eu lle. Yn y 10g ceisiodd Normaniaid Sisili ei chipio. Bu ymrafael am ei meddiant rhwng rheolwyr Moroco a Portiwgal a Sbaen o 1471, pan gafodd ei chipio gan y Portiwgalwyr, a 1691 pan adfeddianwyd y ddinas o feddiant Sbaen gan y Swltan Moulay Ismail. Bu'n ganolfan i fôr-ladron am gyfnod ar ôl hynny. Erbyn heddiw mae'n gyrchfan gwyliau ffasiynol i Forocwyr ac eraill.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato