Tarddiad yr enw Mynwy

Mae'n debygol mai "llif cyflym" ydy ystyr gwreiddiol Mynwy, enw afon yn wreiddiol a roddodd ei enw hefyd i nifer o lefydd gan gynnwys Trefynwy a Sir Fynwy ac mae'r ystyr hwn yn debyg iawn i darddiad y gair Menai. Cafwyd y cofnod cyntaf o'r gair yn 1075 (Monemue) a Sesnigiwyd i "Monnow". Mae'n fwy na thebyg mai "Aber Mynwy" oedd yr enw gwreiddiol a cheir cofnod ohono'n dyddio yn ôl i 1136 (Aper Myngui ac Aper Mynuy).

Mae lleoliaf Trefynwy yn y cymer ble mae Afon Mynwy yn uno gydag Afon Gwy; maen bosibl mai cyfuniad sydd yma o Mon + (G)wy.

Bedyddiwyd y dref yn Blestiwm gan y Rhufeiniaid.

Gwy golygu

Mae'n ymddangos i'r gair "Gwy" ddod o'r hen Frythoneg guo: "nadreddu" neu "ymdroelli" sef disgrifiad o symudiad yr afon. Ceir Guoy yn 800 a Waia, Waie (1086) a Wai (1148); Gui a Guai erbyn 1175. O'r gair hwn y tarddodd "Gŵyr".

Ffynhonnell golygu

  • Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007)

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am y Gymraeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.