Caer Rufeinig Blestiwm

Mae Caer Rufeinig Blestiwm neu Blestium (hefyd Blestio) yn gaer fechan a chanolfan mwyngloddio haearn yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru.

Caer Rufeinig Blestiwm
Mathsafle archaeolegol, caer Rufeinig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 55 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirTrefynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.809°N 2.717°W Edit this on Wikidata
Map

Mae ei leoloiad yng nghymer Afon Mynwy ac Afon Gwy. Yn adeg y Rhufeiniwr, safodd ar y ffordd rhwng Caerleon (Isca Silurum) a Silchester (Calleva Atrebatum) yn Lloegr, sef hanner ffordd rhwng y gaer ym Mrynbuga (Burrium) a'r gwaith haearn yn Weston under Penyard (Ariconium). Mae'n debygol fod yr enw'n dod o'r Groeg βλαστος, sy'n golygu "atodiad" neu "o'r neilltu".[1] Sefydlwyd y gaer, fwy na thebyg, gan naill ai Publius Ostorius Scapula neu ei ddilynydd, sef Aulus Didius Gallus yn ystod y don gyntaf o ymosodiadau gan y Rhufeiniaid yn erbyn y Silwriaid de-ddwyrain Cymru.

Credir fod y gaer yn ddigon mawr i roi lloches i 2,000 o filwyr Rhufeinig ar y cychwyn, gyda llai a llai yn byw yno wrth i'w gafael ar yr ardal gryfhau dros y pedair canrif ddilynol.[2]

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar lleoliad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).

Lleoliad y gaer

Y gaer gyntaf yng Nghymru? golygu

Mae'n bur debygol mai dyma leoliad y gaer gyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru, ychydig cyn 55 Ô.C.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Blestium at RomanBritain.org Archifwyd 2008-10-07 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 2 Mawrth 2012
  2. Cymdeithas Ddinesig Trefynwy, Guide to the Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., tud.6
  3. Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Historic Landscape Characterisation: Lower Wye Valley, 011 Trefynwy. Adalwyd 2 Mawrth 2012


Caerau Rhufeinig Cymru  
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis