Tarrenhendre

mynydd (634m) yng Ngwynedd

Mynydd yn ne Gwynedd yw Tarrenhendre, weithiau Tarren Hendre; cyfeiriad grid SH682041. Saif yn agos i Cadair Idris, i'r de o Abergynolwyn ac i'r gogledd o bentref Pennal a'r briffordd A493. Mae copa Tarren y Gesail, sydd ychydig yn uwch, i'r gogledd-ddwyrain ohono. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 435metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Tarrenhendre
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCader Idris Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr634 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.619116°N 3.94714°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6828304155 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd203 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaTarrenhendre Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddCader Idris Edit this on Wikidata
Map

Gellir ei ddringo a Abergynolwyn, ar hyd llwybr sy'n arwain trwy hen chwarel lechi Bryneglwys, neu o'r de o lwybr sy'n dechrau o'r ffordd gefn i'r gorllewin o Bennal.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 634 metr (2080 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu