Tauros
Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Tauros (Japaneg: ケンタロス - Kentauros). Mae Tauros yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.
Cymeriad
golyguDaw'r enw Tauros o'r gair Lladin taurus (sef tarw). Daw'r enw Japaneg o'r Groeg Κένταυρος - Kentauros (sef dynfarch). Cafodd Tauros ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon).
Ffisioleg
golyguMae Tauros (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon normal sydd yn edrych fel teirw brown gyda myngau trwchus, cyrn mawr, cyrff cyhyrog a thair cynffon hir, tenau. Mae hefyd ganddynt tri styden arian er eu talcennau. Mae pob Tauros yn wrywol a mae llawer o chwaraewyr yn ei weld fel cymar i Miltank. Mae gan Tauros y pŵer i greu daeargrynfeydd gan stabaldeinio gyda'u carnau.
Ymddygiad
golyguMae Tauros yn byw, ac yn teithio, o fewn diadellau. Mae Tauros yn defnyddio eu cynffonau i chwipio eu hunain mewn i cynddeiriogwydd, oherwydd hyn mae rhuthradau yn cyffredin iawn. Pan nad oes wrthwynebwyr i ymladd, bydd Tauros yn taclo coed er mwyn gostegu.
Cynefin
golyguMae Tauros yn anghyffredin iawn yn yr anial. Ond, maent yn cyffredin iawn o fewn saffari a go brin yng nghaeau glaswelltog.
Deiet
golyguFel teirw go iawn, mae Tauros yn llysysyddion sydd yn bwyta glaswellt, ffrwythau a llysiau.