Llyn Tegid
Llyn naturiol mwyaf Cymru yw Llyn Tegid (6.4 km / 4 milltir o hyd, 1.6 km/1 milltir o led). Fe'i lleolir i'r de o'r Bala yng nghanol ardal Penllyn ym Meirionnydd, de Gwynedd. Mae Afon Dyfrdwy yn llifo trwyddo. Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn rhedeg ar hyd ei lannau deheuol. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd Aran Benllyn a'r Berwyn i'r dwyrain ac Arenig Fawr i'r gorllewin. Mae'r llyn yn boblogaidd iawn i hwylio, bordhwylio, canŵio a physgota. Ar ei lan gogleddol ceir Canolfan Glanllyn, gwersyll yr Urdd.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4.84 km² |
Cyfesurynnau | 52.8833°N 3.6333°W |
Hyd | 5.95 cilometr |
Rheolir gan | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Bywyd gwyllt
golyguMae'r llyn dwfn, clir yn gartref i lawer o anifeiliaid megis, er enghraifft penhwyaid, brithyllod a llysywenod. Mae nifer o'r rhywogaethau sydd yn byw yn y llyn yn brin iawn - er enghraifft pysgod fel y gwyniad (Coregonus lavaretus) a malwen dŵr croyw brinnaf Prydain, y falwen lysnafeddog (Myxas glutinosa). Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r broblem o ewtroffigedd wedi datblygu yn Llyn Tegid sydd yn berygl fawr i nifer o'r rhywogaethau a geir yn y llyn.
Traddodiadau
golyguCysylltir y cymeriad chwedlonol Tegid Foel â'r llyn.[1]
Yn y chwedl Hanes Taliesin mae Tegid yn ŵr i'r dduwies / wyddones Ceridwen. Roedd ei lys yn sefyll ar dir sydd dan ddŵr y llyn heddiw. Yn ôl traddodiadau llên gwerin, boddwyd llys Tegid Foel un noson. Dywedir fod golau'r llys a'r dref fach o'i gwmpas i'w weld liw nos loergan.
Traddodiad diweddar iawn yw'r un am yr anghenfil o'r enw "Tegi" sydd yn nofio yn nyfnderau Llyn Tegid. Datblygodd y chwedl dan ddylanwad amlwg y chwedl am "Nessie" yn Loch Ness, yn yr Alban.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Oriel: Llynnoedd Eryri". BBC Cymru Fyw. 2023-11-15. Cyrchwyd 2023-11-16.
Oriel
golygu-
Awyrluniau o sut mae'r dŵr yn llifo o Lyn Tegid
-
Llyn Tegid, Sir Feirionydd
-
Llyn Tegid