Teim gwyllt
Thymus polytrichus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Lamiaceae |
Genws: | Thymus (planhigyn) |
Rhywogaeth: | T. praecox |
Enw deuenwol | |
Thymus polytrichus Opiz |
Planhigyn blodeuol dyfrol yw teim gwyllt[1] neu gruwlys[2]. Mae'n perthyn i'r teulu Lamiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Thymus polytrichus a'r enw Saesneg yw Wild thyme.[3] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gruw Gwyllt, Gruwlys Gwyllt, Gruwlys Gwyllt Lleiaf. Yn anffodus, defnyddir teim fel arfer gan bobl nad ydynt yn gwybod y gair Cymraeg am 'gruwlyus'.
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn tyfu mewn cynefinoedd oer a thymherus (neu gynnes) yn hemisffer y Gogledd a'r De fel y'i gilydd.
Llenyddiaeth
golyguDyma drosiad Gwyn Thomas o eiriau Shakespeare ym Midsummer Night’s Dream (Breuddwyd Nos Wyl Ifan) a’r cyfeiriad at y teim:
- "Mi wn am lain lle tyf y teim yn wyrdd,
- A llysiau'r parlys, fioledau fyrdd,
- A glwys yn do i'r fan mae gwyddfid pêr,
- Miaren Mair a rhosys dan y sêr."
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ teim. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2021. Daw'r cofnod cynharaf o c.1740.
- ↑ gruwlys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2021. Daw'r cofnod cynharaf o 1545.
- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015