Teitlau Llysoedd Cymru

Teitlau amrywiol a ddefnyddiwyd yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol i ddisgrifio nifer gwahanol o swyddogion cyhoeddus llysoedd y teyrnasoedd yw Teitlau Llysoedd Cymru. Roedd rolau gwahanol y swyddogion amrywiol wedi datblygu dros gyfnod o amser ac roedd y newidiadau yma'n adlewyrchu'r newidiadau gwleidyddol a fu dros y canrifoedd, cyfnod Llywelyn ap Gruffudd, sef diwedd 13g.

Teitlau Llysoedd Cymru

Y teulu brenhinol golygu

  • Brenin yn golygu rheolwr gwladwriaeth neu deyrnas.
  • Tywysog yn golygu ‘Pennaeth’. Roedd y brenin yn rhinwedd ei statws yn bennaeth hefyd. Roedd y teitl ‘Tywysog’ â gwreiddiau cyffredin gyda’r term Gwyddelig Taoiseach.
  • Edling oedd yr ‘etifedd i’r orsedd’. Benthycwyd y teitl o’r Hen Saesneg, sef Æþeling sy’n golygu ‘mab brenhinol’.

Deuddeg Prif Swyddogion y Llys golygu

  • Penteulu: Ei ystyr llythrennol oedd ‘pennaeth y tŷ’, sef teitl a roddwyd i gapten y gosgordd neu’r gwarchodwyr. Roedd hwn yn swydd oedd yn cael ei roi fel arfer i aelod o’r teulu brenhinol. Roedd yn swydd oedd â chyfrifoldebau pwysig i amddiffyn y brenin, tywysog neu rheolwr; math o Weinidog Amddiffyn ffiwdal.
  • Offeiriad Teulu: Ei ystyr yn llythrennol oedd ‘offeiriad y tŷ’, un o’r prif ymgynghorwyr ar faterion crefyddol.
  • Distain: Yn golygu ‘stiward’ â’i wreiddiau yn y term o’r Hen Saesneg a olygai ‘arglwydd llestr’. Yn ddiweddarach disodlwyd y term yma gyda’r teitl ’Seneschal’ a olygai prif wleidydd a phrif weithredwr y llys; math o Brif Weinidog a Gweinidog Dramor yn y cyd-destun ffiwdal. Roedd Ednyfed Fychan yn ‘ddistain’ i Llywelyn Fawr, sef prif gynghorwr i’r tywysog, ac roedd ei ddyletswyddau yn cymharu gyda chyfrifoldebau Prif Weinidog.
  • Brawdwr Llys: Yn golygu ’barnwr y llys’. Un o’r prif swyddogion cyfreithiol a oedd yn penderfynu a dyfarnu ar faterion y deyrnas; math o Weinidog Cyfiawnder y byd ffiwdal.
  • Penhebogydd: Yn golygu y prif hebogwr. Unigolyn oedd â’r sgiliau i drin a thrafod hebog, aderyn ysgylyfaethus, a oedd wedi ei hyfforddi i hela anifeiliaid gwyllt yn eu cynefin.
  • Pencynydd: Y prif heliwr (yn llythrennol yn golygu ‘meistr y cŵn hela’)
  • Gwas Ystafell: Y Siambrlen, sef swyddog a oedd yn rheoli rhediad a staff tŷ/llys y rheolwr neu'r arglwydd
  • Bardd Teulu: Bardd y llys. Roedd yn cyfansoddi a chanu cerddi I fawrygu a moli y llys a’r brenin neu roedd hefyd yn cyfansoddi a chanu marwnadau. Roedd yn rhydd hefyd i ganu i frenhinoedd a thywysogion eraill yn ogystal. Gweler hefyd Pencerdd.
  • Drysor Neuadd: Y dryswr oedd yn gwarchod y drws i’r prif neuadd. Teitl anrhydeddus milwrol.
  • Drysor Ystafell: Y dryswr i’r siambr/prif ystafell frenhinol. Teitl anrhydeddus milwrol.
  • Gwastrawd Afwyn: Gwas y ffrwyn.
  • Meddyg: Ffisigwr y llys.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. The Welsh king and his court. Charles-Edwards, T. M., Owen, Morfydd E., Russell, Paul, 1956 February 23-, University of Wales. Board of Celtic Studies. History and Law Committee. Cardiff: University of Wales Press. 2000. tt. 19, 27. ISBN 1-4175-0858-2. OCLC 55611354.CS1 maint: others (link)