Mae hon yn erthygl am y cantref ym Mrycheiniog. Gweler hefyd Cantref Mawr.

Cantref Tewdos, a elwir hefyd Y Cantref Mawr, oedd un o dri chantref Brycheiniog yn yr Oesoedd Canol. Gorweddai i'r de o afon Wysg. Mae tiriogaeth y cantref yn uchel a mynyddig ac yn cynnwys rhan helaeth o Fannau Brycheiniog.

Ffiniai Cantref Tewdos, ym Mrycheiniog ei hun, â Chantref Selyf) i'r gogledd a'r trydydd gantref, a elwir weithiau'n Bencelli, i'r dwyrain. I'r gorllewin ffiniai ag Ystrad Tywi ac i'r de â chantrefi a chymydau ucheldir Morgannwg.

Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol rhanwyd y cantref yn dri chwmwd, yn ôl y rhestr o gantrefi a chymydau yn Llyfr Coch Hergest, sef :

  • Dyffryn Hoddni (camgymeriad gan llunwir y rhestr efallai; mae afon Hoddni yn ymuno ag afon Wysg ger Aberhonddu ond mae'r dyffryn ei hun yn gorwedd i'r gogledd o'r cantref)
  • Llys Hywel (gyda'i ganolfan yn Nghrughywel)
  • Tir Rawlff (enw diweddar ar ardal yn ne'r cantref)

Canolfannau pwysicaf y cantref yn yr Oesoedd Canol Diweddar oedd Aberhonddu a Chastell Camlais.

Gweler hefyd golygu