Pencelli

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan yng nghymuned Tal-y-bont ar Wysg, Powys, Cymru, yw Pencelli.[1][2] Saif yn ardal Brycheiniog ar lan ffordd yr A40 tua 4 milltir i'r de o Aberhonddu, mewn cwm mynyddig rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain.

Pencelli
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.915782°N 3.318531°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Yma ceir eglwys bychan o'r enw "Llanfeugan" a gysegrwyd i Sant Meugan.[3] Mae mynwent yr eglwys yn safle arbennig o ran y coed yw sydd ynddi. Mesurwyd yr hynaf o'r 12 coeden sydd yno a chafwyd ei bod dros 9 metr o'i chwmpas.[4]

Ywen Pencelli ym mynwent yr eglwys

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[6]

Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Sgethrog a Llanhamlach i'r dwyrain, a Llanfrynach i'r gogledd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 6 Ionawr 2022
  3. Gwefan www.ancient-yew.org; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 27 Hydref 2014
  4. Gwefan www.monumentaltrees.com; adalwyd 27 Hydref 2014
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU