Teyrnas Jeriwsalem

(Ailgyfeiriad o Teyrnas Jerusalem)

Teyrnas Gristnogol a sefydlwyd wedi'r Groesgad Gyntaf yn 1099 oedd Teyrnas Jeriwsalem. Ar y dechrau, roedd yn gasgliad o ddinasoedd a thiriogaethau oedd wedi eu cipio oddi ar y Mwslimiaid yn ystod y Groesgad, ac mae'n ymddangos nad oedd ei rheolwr cyntaf, Godefroid o Fouillon, yn ei alw ei hun yn frenin. Tyfodd i fod yn rym sylweddol yn y Dwyrain Canol. Yn 1187 gorchfygwyd byddin Teyrnas Jeriwsalem gan Saladin ym Mrwydr Hattin ac yn ddiweddarach yr un flwyddyn cipiodd Saladin ddinas Jeriwsalem ei hun. Parhaodd y deyrnas hyd 1291 pan gipiwyd Acre gan y Mwslimiaid.

Teyrnas Jeriwsalem
MathCrusader states, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlJeriwsalem Edit this on Wikidata
PrifddinasJeriwsalem, Tyrus, Acre Edit this on Wikidata
Poblogaeth565,000 ±85000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 Gorffennaf 1099 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Lladin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladSyria, Libanus Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholHaute Cour of Jerusalem Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwadyr Eglwys Gatholig Rufeinig Edit this on Wikidata
Teyrnas Jeriwsalem a'r teyrnasoedd Cristnogol eraill (mewn gwyrdd) yn y Dwyrain Canol yn 1135.

Brenhinoedd Teyrnas Jeriwsalem

golygu

(Collwyd Jeriwsalem yn 1187; bu farw Sybilla yn 1190, ond parhaodd Guy yn frenin gweddillion y diriogaeth hyd 1192)

  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.