The Cambrian (Cymru)
Y papur newydd cyntaf i'w gyhoeddi yng Nghymru oedd The Cambrian (hefyd: Y Cambrian).[1] Cafodd ei gyhoeddi yn Abertawe yn 1804. Tua 580,000 oedd poblogaeth Cymru y pryd hynny a bychan, felly, oedd ei gylchrediad. Saesneg oedd iaith y papur. Yn fuan wedyn - yn 1807 - cyhoeddwyd y North Walez gazette ym Mangor, sef wythnosolyn cyntaf Gogledd Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol |
---|---|
Golygydd | Thomas Jenkins, John Roby |
Cyhoeddwr | Thomas Jenkins, E. Jenkins, Sarah Jenkins, W. C. Murray & D. Rees, David Rees |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 28 Ionawr 1804 |
Tudalennau | 4, 8 |
Dechrau/Sefydlu | 1804 |
Lleoliad cyhoeddi | Abertawe |
Perchennog | Lewis Weston Dillwyn, Thomas Jenkins, Williams, Murray & Rees, John Williams, George Haynes |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Sylfaenydd | George Haynes, Lewis Weston Dillwyn |
Cefnogwyd y papur gan deuluoedd yr Heyes a'r Dillwyniaid. Seren Gomer oedd y papur newydd cyntaf yn y Gymraeg, a daeth y rhifyn cyntaf allan o'r wasg yn 1814, yntau o Abertawe.
Ar-lein
golyguMae'r papur wedi ei ddigo gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac i'w darllen ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein.[2] ynghyd â dros gant o bapurau newydd Cymraeg a Saesneg eraill o Gymru.
Dolenni
golygu- The Cambrian ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Beti (1993), "Cyhoeddi Papurau newydd yng Nghymru", Y Casglwr (51): 16, http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2051/51%2016.pdf
- ↑ "The Cambrian". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 31 Hydref 2023.