The Caretaker (drama)
Am drosiad / cyfieithiad Cymraeg o'r ddrama gweler Y Gofalwr
The Caretaker | |
---|---|
Clawr y cyhoeddiad cyntaf 1960 | |
Awdur | Harold Pinter |
Characters |
|
Perfformiad cyntaf | 27 Ebrill 1960 |
Lleoliad perfformiad cyntaf | Arts Theatre Westminster, Llundain |
Iaith gwreiddiol | Saesneg |
Gosodiad | Tŷ yng Ngorllewin Llundain. Gaeaf. |
Drama mewn tair act gan Harold Pinter yw The Caretaker, a'i lwyddiant masnachol arwyddocaol cyntaf. Astudiaeth seicolegol sydd yma o gydlifiad pŵer, teyrngarwch a diniweidrwydd, rhwng dau frawd a thramp. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn yr Arts Theatre Club yn West End Llundain ar 27 Ebrill 1960 a'i drosglwyddo i'r Duchess Theatre y mis canlynol, lle gwelwyd 444 o berfformiadau cyn gadael Llundain am Broadway. Ym 1963, addaswyd y ddrama yn ffilm gan Clive Donner gydag Alan Bates fel Mick a Donald Pleasence fel Davies - dau o'r tri actor a bortreadodd y cymeriadau am y tro cyntaf ar lwyfan. Daeth Robert Shaw i gymryd lle Peter Woodthorpe fel Aston. Wedi'i gyhoeddi am y tro cyntaf gan Encore Publishing ac Eyre Methuen ym 1960, mae The Caretaker yn parhau i fod yn un o ddramâu mwyaf enwog Pinter, ac un a berfformir yn aml.
Crynodeb o'r plot
golyguAct 1
golygu- [Golygfa 1]
Mae Aston wedi gwahodd Davies, dyn digartref, i’w fflat ar ôl ei achub o ffrwgwd mewn bar. Mae Davies yn beirniadu’r fflat am ei fod yn anniben a blêr. Mae Aston yn ceisio dod o hyd i bâr o sgidiau i Davies ond mae Davies yn gwrthod pob cynnig. Mae Davies yn datgelu i Aston nad "Bernard Jenkins" yw ei gwir enw, ond "Mac Davies". Mae'n honni bod ei bapurau sy'n dilysu'r ffaith hon yn Sidcup a bod yn rhaid iddo fynd yno i'w casglu, cyn gynted ag y bydd ganddo bâr o esgidiau da. Mae Aston a Davies yn trafod lle bydd yn cysgu a phroblem y "bwced" sydd ynghlwm wrth y nenfwd i ddal y glaw sy'n diferu o'r to sy'n gollwng.
- [Golygfa 2]
Wrth i Aston wisgo'r bore canlynol, mae Davies yn deffro, ac mae Aston yn cwyno fod ei fwmian wedi'i gadw'n effro trwy'r nos. Mae Davies yn gwadu iddo wneud unrhyw sŵn ac mae'n beio'r cymdogion, ac yn datgan bod ganddo ofn tramorwyr: "I tell you what, maybe it were them Blacks". Mae Aston yn datgan ei fod yn mynd allan, ond yn gwahodd Davies i aros yno, os yw’n dymuno, gan nodi ei fod yn ymddiried ynddo. Cyn gynted ag y bydd Aston yn gadael yr ystafell, mae Davies yn dechrau chwilota drwy “stwff” Aston ond mae'r chwilio yn peidio pan mae Mick, brawd Aston, yn cyrraedd yn annisgwyl.
Act 2
golyguDigwydd yr Act ychydig eiliadau ar ôl y gyntaf, gyda Mick yn mynnu enw gan Davies, sy'n dweud "Jenkins". Mae Mick yn amau mai dieithryn yw Davies, sy'n dadlau fel arall. Ynghanol cwestiynnu Mick, dychwela Aston gyda bag i Davies, a trafodir sut i drwsio'r to sy'n gollwng. Mae'r tri yn dadlau a brwydro dros y bag. Wedi i Mick ymadael, mae Davies yn ei alw'n rêl "jocar", ac yn trafod ei waith fel adeiladwr, cyn datgelu mai nid ei fag o ydi'r hyn mae Aston wedi'i ganfod. Mae Aston yn cynnig gwaith i Davies fel "the caretaker" [gofalwr] sy'n peri pryder pellach iddo.
- [Golygfa 2]
Mae Davies yn amau bod y trydan wedi diffodd, ond Mick sydd wedi dwyn y bylb, mewn ymdrech i ddychryn yr hen ddyn. Ar ôl trafodaeth gyda Davies am y fflat, mae Mick hefyd yn cynnig swydd "gofalwr" i Davies gan ddiliorni diogrwydd Aston.
- [Golygfa 3]
Y bore canlynol, mae Davies yn deffro ac yn cwyno wrth Aston am ba mor wael y cysgodd. Mae'n rhoi'r bai ar wahanol agweddau o ddaeryddiaeth y fflat. Mae Aston yn sôn am ei gyfnod fel claf mewn ysbyty iechyd meddwl gan dderbyn therapi sioc drydanol. Ond pan geisiodd ddianc o’r ysbyty cafodd sioc arall a barodd niwed parhaol i’w ymennydd.
Act 3
golygu- [Golygfa 1]
Tair wythnos yn ddiweddarach, ac mae Davies a Mick yn trafod adnewyddu'r fflat, gyda Mick yn gobeithio y byddai'n gartref iddo ef a'i frawd Aston. Er iddo gael ei wahodd i fod yn "ofalwr", yn gyntaf gan Aston ac yna gan Mick, mae Davies yn dechrau ymddiddori yn ei gysylltiad â Mick, sy'n peri inni amau bod Mick yn rhan o gynllun Davies i hawlio'r fflat ei hun. Dychwela Aston gyda phâr o esgidiau i Davies, sy'n cael ei dderbyn, ac yn peri iddo sôn unwaith eto am fynd i ganfod "ei bapurau" o "Sidcup".
- [Golygfa 2]
Mae Davies yn crybwyll ei gynllun wrth Aston, ac yn ei sarhau drwy ail-adrodd manylion am eu gyfnod yn yr ysbyty iechyd meddwl. Mae hyn yn arwain Aston i awgrymu bod hi'n amser i Davies ganfod rhywle arall i fyw. Pan gaiff Aston ei fygwth gan gyllell Davies, mae'n gorchymyn i Davies ymadael. Wedi'i wylltio'n ulw, mae Davies yn gadael gan honni y bydd Mick yn ei gefnogi gan drefnu mai Aston sy'n gorfod ymadael.
- [Golygfa 3]
Dychwela Davies â Mick gan sôn am yr helynt a fu gydag Aston. Ond mae Mick yn ochri gydag Aston, ac yn gorfodi Davies i gyfaddef ei wir-enw. Mae Mick yn cynnig arian fel cyflog i Davies am ei waith, ac fe ddychwel Aston. Mae Davies yn erfyn am gael aros wrth Aston, ac fe orffenir y ddrama heb ateb pendant i'w gais.
Gwreiddiau a chyd-destunau'r ddrama
golyguYn ôl cofiannydd Pinter, Michael Billington, roedd y dramodydd yn cyplysu tarddiad The Caretaker â delweddau o'i fywyd ei hun. Mae Billington yn nodi yn ei gofiant awdurdodedig fod Pinter wedi dweud iddo ysgrifennu’r ddrama tra’r oedd ef a’i wraig gyntaf Vivien Merchant yn byw yn Chiswick:
“ | [The flat was] a very clean couple of rooms with a bath and kitchen. There was a chap who owned the house: a builder, in fact, like Mick who had his own van and whom I hardly ever saw. The only image of him was of this swift mover up and down the stairs and of his van going . . . Vroom . . . as he arrived and departed. His brother lived in the house. He was a handyman . . . he managed rather more successfully than Aston, but he was very introverted, very secretive, had been in a mental home some years before and had had some kind of electrical shock treatment . . . ECT, I think . . . Anyway, he did bring a tramp back one night. I call him a tramp, but he was just a homeless old man who stayed three or four weeks. | ” |
Yn ôl Billington, disgrifiodd Pinter Mick fel y cymeriad puraf o'r tri. Fodd bynnag, teimlai rhyw agosatrwydd arbennig â'r tramp, Davies, gan nodi "[The Pinters' life in Chiswick] was a very threadbare existence . . . very . . . I was totally out of work. So I was very close to this old derelict's world, in a way."(Harold Pinter 114–17).
I feirniaid cynharach, fel Martin Esslin, mae The Caretaker yn awgrymu agweddau ar Theatr yr Abswrd, a ddisgrifiwyd gan Esslin yn ei lyfr sy'n bathu'r term hwnnw a gyhoeddwyd gyntaf yn 1961; yn ôl Esslin, adwaith i'r anhrefn a welwyd yn yr Ail Ryfel Byd a chyflwr y byd ar ôl y rhyfel yw dramâu abswrdaidd gan lenorion fel Samuel Beckett, Eugène Ionesco, Jean Genet, ac Edward Albee, ac eraill oedd yn amlwg ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au.
Mae sylwadau Pinter ei hun ar ffynhonnell tair o’i brif ddramâu yn cael ei ddyfynnu’n aml gan feirniaid:
“ | I went into a room and saw one person standing up and one person sitting down, and few weeks later I wrote The Room. I went into another room and saw two people sitting down, and a few years later I wrote The Birthday Party. I looked through a door into a third room and saw two people standing up and I wrote The Caretaker.[1] | ” |
Dadansoddiad o'r cymeriadau
golyguAston
- Pan oedd yn iau, cafodd therapi sioc drydanol sy'n golygu bod niwed parhaol i'w ymennydd. Gellir ystyried ei ymdrechion i ddyhuddo y Davies achwynol fel ymgais i estyn allan at eraill. Mae'n chwilio'n daer am gysylltiad yn y lle anghywir a chyda'r bobl anghywir. Ei brif rwystr yw ei anallu i gyfathrebu. Mae’n cael ei gamddeall gan ei berthynas agosaf, ei frawd, ac felly mae’n gwbl ynysig yn ei fodolaeth. Mae ei agwedd natur dda yn ei wneud yn agored i gamfanteisio. Mae ei ddeialog yn denau ac yn aml yn ymateb uniongyrchol i rywbeth y mae Mick neu Davies wedi’i ddweud. Mae gan Aston freuddwydion am adeiladu sied. Gall y sied gynrychioli'r holl bethau y mae ei fywyd yn ddiffygiol: cyflawniad a strwythur. Mae'r sied yn cynrychioli gobaith ar gyfer y dyfodol.
Davies
- Mae Davies yn creu stori ei fywyd, gan ddweud celwydd neu osgoi dweud y gwir amdano'i hun. Mae'n addasu agweddau ar hanes ei fywyd yn ôl y bobl y mae'n ceisio dylanwadu arnynt. Fel y dywed Billington, "When Mick suggests that Davies might have been in the services — and even the colonies, Davies retorts: 'I was over there. I was one of the first over there.' He defines himself according to momentary imperatives and other people's suggestions"
Mick
- Er yn dreisgar a di-dymer, mae Mick yn uchelgeisiol. Mae ei anfodlonrwydd cynyddol gyda Davies yn arwain at gymodi gyda'i frawd, Aston. Ar gychwyn y ddrama, awgrymir iddo ymbellhau oddi wrth Aston, ond erbyn y diwedd maent yn cyfnewid ychydig eiriau a gwên wan. Yn gynnar yn y ddrama, pan ddaw Mick ar draws Davies am y tro cyntaf, mae Mick yn ymosod arno, gan ei gyhuddo o fod yn dresmaswr yn nhŷ ei frawd Aston. Ar y dechrau, mae'n ymosodol tuag at Davies. Yn ddiweddarach, efallai trwy awgrymu y gallai Davies fod yn "ofalwr" nid yn unig o dŷ ei frawd, ond o Aston ei hun hefyd, fod Mick yn ceisio pellhau oddi wrth ei gyfrifoldeb tuag at ofalu am ei frawd.
Arddull
golyguMae iaith a chynllwyn The Caretaker yn asio Realaeth â Theatr yr Abswrd. Yn Theatr yr Abswrd defnyddir iaith mewn modd sy'n cynyddu ymwybyddiaeth y gynulleidfa o'r iaith ei hun, yn aml trwy ailadrodd ac osgoi deialog.
Mae'r ddrama wedi'i chymharu'n aml â Waiting for Godot, gan Samuel Beckett, a dramâu abswrdaidd eraill oherwydd ei diffyg plot a gweithredu ymddangosiadol.
Iaith
golyguUn o'r allweddi i ddeall iaith Pinter yw peidio â dibynnu ar y geiriau mae cymeriad yn eu dweud ond chwilio am yr ystyr y tu ôl i'r testun. Mae The Caretaker yn llawn o rantiau hir, ac mae'r iaith naill ai'n ddeialog frawychus yn llawn ymyriadau neu areithiau hir sy'n drên meddwl lleisiol.
Dehongliad
golyguYn ei adolygiad o The Caretaker o 1960, mae ei gyd-ddramodydd o Loegr, John Arden, yn nodi: "Taken purely at its face value this play is a study of the unexpected strength of family ties against an intruder."[2] Fel y dywed Arden, perthnasoedd teuluol yw un o brif bryderon thematig y ddrama.
Thema gyffredin arall yw anallu'r cymeriadau i gyfathrebu'n gynhyrchiol â'i gilydd. Mae'r ddrama'n dibynnu mwy ar ddeialog nag ar weithredu; fodd bynnag, er bod adegau di-baid pan fydd pob un ohonynt yn ymddangos fel petaent yn cyrraedd rhywfaint o ddealltwriaeth â'i gilydd, yn amlach na pheidio, maent yn osgoi cyfathrebu â'i gilydd o ganlyniad i'w hansicrwydd seicolegol a'u hunan-bryderon eu hunain.
Ymddengys bod thema unigedd yn deillio o anallu'r cymeriadau i gyfathrebu â'i gilydd, ac mae ynysigrwydd y cymeriadau eu hunain i'w gweld yn gwaethygu eu hanhawster wrth gyfathrebu ag eraill.
Hanes cynhyrchu
golyguPremière
golyguAgorodd y cynhyrchiad cyntaf o The Caretaker yn yn yr Arts Theatre, yn Llundain ar 27 Ebrill 1960, cyn trosglwyddo i'r Duchess Theatre yn y West End ar 30 Mai 1960. Donald Pleasence oedd Davies, Alan Bates oedd Mick, a Peter Woodthorpe oedd Aston. Derbyniodd y cynyrchiadau adolygiadau canmoliaethus ar y cyfan. [3]
Cynyrchiadau nodedig eraill
golygu- 1981 - y Royal National Theatre. Cyfarwyddwyd gan Kenneth Ives .
- Cast: Jonathan Pryce, Kenneth Cranham, a Warren Mitchell
- 1990 - Theatr y Sherman, Caerdydd (24 Hydref - 10 Tachwedd)
- Cast: Miriam Karlin oedd Davies – y tro cyntaf i fenyw berfformio’r brif ran – gyda Mark Lewis Jones (Aston) a Gary Lilburn (Mick). Cyfarwyddwyd gan Annie Castledine.
- 1991 - Comedy Theatre, Llundain. Cyfarwyddwyd gan Harold Pinter .
- Cast: Donald Pleasence, Peter Howitt a Colin Firth
- 2000 - Comedy Theatre, Llundain, Tachwedd 2000 - Chwefror 2001. Cyfarwyddwyd gan Patrick Marber. Dylunydd, Rob Howell; goleuo, Hugh Vanstone; sain, Simon Baker (ar gyfer Autograph). Cyfarwyddwr Cyswllt, Gari Jones
- Cast: Michael Gambon (Davies), Rupert Graves (Mick), a Douglas Hodge (Aston)
- 2006 - Theatrau Sheffield, rhan o daith y DU yn nhymor 2006-2007. Cyfarwyddwyd gan Jamie Lloyd.
- 2009 - Theatr Everyman, Lerpwl. Cyfarwyddwyd gan Christopher Morahan.
- Cast: Jonathan Pryce (Davies), Peter McDonald (Aston), Tom Brooke (Mick).
Addasiad ffilm
golygu- The Caretaker (1963)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ See, e.g., Leonard Powlick, " 'What the hell is that all about?' A Peak at Pinter's Dramaturgy", Harold Pinter: Critical Approaches, ed. Steven H. Gale (Cranbury, NJ: Associated UP, 1986) 32.
- ↑ John Arden, book review of The Caretaker, New Theatre Mag.
- ↑ See, e.g., T. C. Worsley, "Immensely Funny, Disturbing and Moving", Financial Times, 28 April 1960: "The Caretaker is both a wonderful piece of theatre, immensely funny, rich in observation, and below that level a disturbing and moving experience."
- ↑ What's On: The Caretaker (archived past seasons).
- ↑ For a review of the Sheffield Theatres production, see Lyn Gardner, "Theatre: The Caretaker: Crucible, Sheffield", Guardian, Culture: Theatre.
Gwaith a ddyfynnwyd
golyguArden, John. Book review of The Caretaker, by Harold Pinter. New Theatre Mag. 1.4 (July 1960): 29–30.
Billington, Michael. Harold Pinter. 1996. London: Faber and Faber, 2007. ISBN 978-0-571-23476-9 (13). Updated 2nd ed. of The Life and Work of Harold Pinter. 1996. London: Faber and Faber, 1997. ISBN 0-571-17103-6 (10). Print.
Esslin, Martin. The Theatre of the Absurd. 1961. 3rd ed. New York: Vintage Books, 2004. ISBN 1-4000-7523-8 (10). ISBN 978-1-4000-7523-2 (13). Print.
Hickling, Alfred. "The Caretaker: Octagon, Bolton". Guardian. Guardian Media Group, 13 March 2009. Web. 28 May 2009. (Rev. of production directed by Mark Babych.)
Jones, David. "Travels with Harold". Front & Center Online. Roundabout Theatre Company, Fall 2003. Web. 12 March 2009. ("Online version of the Roundabout Theatre Company's subscriber magazine.")
Knowles, Roland. The Birthday Party and The Caretaker: Text and Performance. London: Macmillan Education, 1988. 41–43. Print.
Naismith, Bill. Harold Pinter. Faber Critical Guides. London: Faber and Faber, 2000. ISBN 0-571-19781-7. Print.
Pinter, Harold. The Caretaker: A Play in Three Acts. London: Encore Publishing Co., 1960. OCLC 10322991. Print.
–––. The Caretaker and The Dumb Waiter: Two Plays by Harold Pinter 1960. New York: Grove Press, 1988. ISBN 0-8021-5087-X (10). ISBN 978-0-8021-5087-5 (13). Print.
Powlick, Leonard. " 'What the hell is that all about?' A Peek at Pinter's Dramaturgy." Harold Pinter: Critical Approaches. Ed. Steven H. Gale. Cranbury, NJ: Associated UP, 1986. 30–37. Print.
Richardson, Brian. Performance review of The Caretaker, Studio Theatre (Washington D.C.), 12 September 1993. The Pinter Review: Annual Essays 1994. Ed. Francis Gillen and Steven H. Gale. Tampa: U of Tampa P, 1994. 109–10. Print.
Scott, Michael, ed. Harold Pinter: The Birthday Party, The Caretaker, The Homecoming: A Case Book. London: Macmillan Education, 1986. Print.
Dolenni allanol
golygu- The Caretaker at the Internet Broadway Database
- "The Caretaker" – From the "Plays" section of HaroldPinter.org: The Official Website of the International Playwright Harold Pinter (Includes details of productions and excerpts from reviews.)
- "The Caretaker Summary / Study Guide" – Synopsis and analysis at eNotes.com.