En Attendant Godot

drama gan Samuel Beckett
Am gyfieithiad Saunders Lewis o'r ddrama yn y Gymraeg, gweler Wrth aros Godot.


Drama gan y dramodydd o Iwerddon Samuel Beckett yw En Attendant Godot sy'n fwy adnabyddus fel y cyfieithiad Saesneg Waiting for Godot, lle mae dau gymeriad, Vladimir (Didi) ac Estragon (Gogo), yn trafod a wynebu anturiaethau tra'n aros am Godot, sydd byth yn cyrraedd. Yn Ffrangeg y cyfansoddodd Beckett y ddrama wreiddiol, gyda'r is-deitl (yn Saesneg yn unig) "a tragicomedy in two acts", cyn ei chyflwyno fel Waiting for Godot yn ddiweddarach.[1]

En Attendant Godot
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSamuel Beckett Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1952 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1949 Edit this on Wikidata
GenreTheatr yr absẃrd Edit this on Wikidata
CymeriadauVladimir, Estragon, Pozzo, Lucky Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTheatre de Babylone Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af5 Ionawr 1953 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfansoddwyd y testun Ffrangeg gwreiddiol rhwng 9 Hydref 1948 a 29 Ionawr 1949.[1] Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf ar 5 Ionawr 1953 yn Théâtre de Babylone ym Mharis. Perfformiwyd y fersiwn Saesneg am y tro cyntaf yn Llundain ym 1955. Mewn arolwg barn a gynhaliwyd gan y National Theatre ym 1998/99, fe’i dewisiwyd fel y “ddrama Saesneg fwyaf arwyddocaol o'r 20fed ganrif”. [2]

Cafwyd cyfieithiad sy'n cael ei gydnabod fel "addasiad" Cymraeg gan Saunders Lewis o'r enw Wrth aros Godot. Cyhoeddwyd y cyfieithiad gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1970 fel rhan o Gyfres y Ddrama yn Ewrop.

Mae'r ddrama'n agor gyda dau gydnabod, Vladimir ac Estragon, yn cyfarfod wrth ymyl coeden ddi-ddeilen. Mae Estragon yn hysbysu Vladimir am ei drafferthion diweddaraf: treuliodd y noson flaenorol yn gorwedd mewn ffos a derbyniodd gurfa gan nifer o ymosodwyr dienw. Mae'r ddeuawd yn trafod amrywiaeth o faterion, dim o unrhyw arwyddocâd, a datgelir o'r diwedd eu bod yn aros am ddyn o'r enw Godot.

Wedi hynny, daw teithiwr o'r enw Pozzo, ynghyd â'i gaethwas Lucky heibio, ac yn oedi i sgwrsio â Vladimir ac Estragon. Mae Lucky wedi'i rwymo gan raff sydd yng ngafael Pozzo, sydd hefyd yn ei orfodi i gludo ei fagiau trwm, ac yn ei gosbi'n gorfforol os yn rhy swrth. Dywed Pozzo ei fod ar y ffordd i'r farchnad, lle mae'n bwriadu gwerthu Lucky am elw. Mae Pozzo a Lucky yn ymadael gan beri mwy o ddryswch i Estragon a Vladimir.

Mae bachgen lleol yn ymddangos ac yn esbonio i Vladimir ac Estragon mai negesydd gan Godot ydio, ac na fydd Godot yn ymweld â hwy heno, ond falle yfory. Mae Vladimir yn gofyn am ddisgrifiad o Godot, gan dderbyn atebion hynod fyr neu amwys gan y bachgen, sy'n ymadael yn fuan wedi hynny. Yna, mae Vladimir ac Estragon yn cyhoeddi y byddan nhw hefyd yn gadael, ond maen nhw'n aros ar y llwyfan heb symud.

Act II

golygu

Mae Vladimir ac Estragon unwaith eto yn aros ger y goeden, sydd wedi tyfu nifer o ddail ers diwedd Act 1. Mae'r ddau yn dal i aros am Godot. Mae Lucky a Pozzo yn ailymddangos, ond nid fel yr oeddent o'r blaen. Mae Pozzo wedi mynd yn ddall ac mae Lucky bellach yn gwbl fud. Ni all Pozzo gofio erioed iddo gwrdd â Vladimir ac Estragon, ac ni allant gytuno ar y tro diwethaf iddynt weld y teithwyr. Mae Lucky a Pozzo yn gadael yn fuan ar ôl eu cyfarfyddiad bywiog, gan adael Vladimir ac Estragon i aros eto.

Maes o law, dychwela'r bachgen hefyd, gan eu hysbysu eto na fydd Godot yn ymweld â nhw. Mae'r bachgen yn eu darbwyllo mai dyma'r tro cyntaf iddynt gwrdd, ac mai nid ef oedd y bachgen fu'n siarad â Vladimir ddoe. Mae hyn yn gwylltio Vladimir gan fynnu bod y bachgen yn ei gofio yfory, er mwyn osgoi'r ailadrodd. Ar ôl i'r bachgen adael, mae Vladimir ac Estragon yn ystyried hunanladdiad, ond nid oes ganddynt raff i hongian eu hunain. Maent yn penderfynu ymadael a dychwelyd drannoeth gyda rhaff.

Cymeriadau

golygu

Ymataliodd Beckett rhag ymhelaethu ar y cymeriadau y tu hwnt i'r hyn yr oedd wedi'i ysgrifennu yn y ddrama.

Vladimir ac Estragon

golygu
 
Vladimir ac Estragon (The Doon School, India, 2010)

Pan ddechreuodd Beckett gyfansoddi, nid oedd ganddo ddelwedd weledol o Vladimir nac Estragon mewn golwg. Ni chyfeirir atynt fel dau drempyn, er eu bod yn aml yn cael eu cyfleu mewn gwisgoedd carpiog.

Mae Roger Blin yn nodi bod Beckett wedi clywed "eu lleisiau, ond ni allai ddisgrifio eu cymeriadau i mi. Yr unig beth rwy'n siŵr ohono yw eu bod y ddau yn gwisgo hetiau bowler.' [3] "Roedd yr het bowler yn de rigueur i ddynion mewn llawer o gyd-destunau cymdeithasol pan oedd Beckett yn tyfu yn Foxrock, ac roedd [ei dad] yn gwisgo un yn aml." [4] Mae'r ddrama yn nodi bod y dillad a wisgir gan Estragon yn ddi-raen. Pan ddywed Vladimir y dylai fod wedi bod yn fardd, mae Estragon yn ei ateb drwy ystumio at ei garpiau.

 
En attendant Godot, Festival d'Avignon, 1978

Pozzo a Lucky

golygu

Mae Pozzo a Lucky wedi bod gyda'i gilydd ers chwe deg mlynedd. [5] Mae Pozzo yn rheoli Lucky trwy gyfrwng rhaff hynod o hir ac yn ei dynnu, os yw Lucky yn arafu.

Prin iawn yw'r wybodaeth am Pozzo ar wahân i'r ffaith ei fod ar ei ffordd i'r ffair i werthu ei gaethwas, Lucky. O brofiadau bywyd Beckett ei hun yn Iwerddon a Ffrainc adeg y rhyfel, mae sylwebwyr fel Hugh Kenner wedi awgrymu y gall Pozzo gynrychioli ymddygiad yr Almaen wedi meddiannu Ffrainc, neu fel bwli o landlord. [6]

Mae'n ymddangos ar y cychwyn, bod Lucky yn is-was ym mherthynas y ddau, drwy gyflawni pob tasg i Pozzo yn ddi-gwestiwn, gan bortreadu "defosiwn tebyg i gi" i'w feistr. [7] Mae'n cael trafferth gyda chês trwm, gan ei ollwng ar sawl achlysur, dim ond i gael ei help i'w ddal gan Estragon a Vladimir.

Y Bachgen

golygu
 
Estragon a'r bachgen ( Prifysgol Chicago, 2020)

Mae rhestr y cast yn nodi un bachgen yn unig.

Mae’r bachgen lleol yn Act I, yn rhoi sicrwydd i Vladimir mai dyma’r tro cyntaf iddynt gwrdd. Mae'n cadarnhau ei fod yn gweithio i Mr. Godot fel casglwr neu fugail geifr. Mae ei frawd, sy'n cael ei guro gan Godot, yn fugail. Mae Godot yn bwydo'r ddau ohonynt ac yn caniatáu iddynt gysgu yn ei lofft.

Mae'r bachgen yn Act II hefyd yn sicrhau Vladimir nad ef a alwodd y diwrnod blaenorol. Mae'n mynnu mai hwn yw ei ymweliad cyntaf. Pan mae Vladimir yn holi beth mae Godot yn "ei wneud" mae'r bachgen yn ateb, "Nid yw'n gwneud dim, syr." [8]

Mae'r amwysedd ynglŷn â'r bachgen neu fechgyn, yn fwriadol, ac mae'r ddau fachgen yn gwrtais ond ofnus.

Mae pwy yw Godot wedi bod yn destun llawer o ddadlau. "Pan ofynnodd Colin Duckworth i Beckett os mai Pozzo oedd Godot, atebodd yr awdur: 'Na. Dim ond awgrym yn y sgript ydio, ond nid yw'n wir.' [9]

Er na drafododd Beckett oblygiadau'r teitl, awgrymodd Deirdre Bair ddwy stori a allasai fod wedi ei ysbrydoli, yn rhannol o leiaf. Y cyntaf yw'r thema o draed, sy'n codi dro ar ôl tro yn y ddrama. Cyfaddefodd Beckett, efallai bod y teitl wedi'i ddylanwadu o'r gair 'slang' Ffrenging am fŵt 'boot' sef "godillot, godasse ". Yr ail stori, yw fod Beckett wedi cyfarfod criw yn gwylio'r ras feiciau Tour de France, a bod un ohonynt wedi dweud wrtho "Nous attendons Godot" - bod nhw'n aros am gystadleuydd o'r enw Godot.[10]

"Cyfaddefodd Beckett wrth Peter Woodthorpe ei fod yn difaru galw'r cymeriad absennol yn 'Godot', oherwydd yr holl ddamcaniaethau yn ymwneud â Duw." [11] "Dywedais hefyd wrth Ralph Richardson, pe bawn i wedi bwriadu cynrychioli Duw drwy Godot y byddwn i wedi dweud Duw, ac nid Godot. Roedd hyn i'w weld yn ei siomi'n fawr." [12] Wedi dweud hynny, cyfaddefodd Beckett unwaith, "Byddai'n angheuol i mi esgus nad wyf yn ymwybodol o'r ystyron sydd ynghlwm wrth y gair 'Godot', a barn llawer mai 'Duw' ydyw. Rhaid cofio – ysgrifennais y ddrama yn Ffrangeg, ac os oedd yr ystyr hwnnw yn fy meddwl, roedd yn rhywle yn fy isymwybod a doeddwn i ddim yn ymwybodol ohono.” [13] (Sylwer: y gair Ffrangeg am 'Duw' yw 'Dieu'.) Fodd bynnag, "Mae Beckett yn aml wedi pwysleisio'r ysgogiadau anymwybodol cryf sy'n rheoli ei ysgrifennu; mae o hyd yn oed wedi cyfeirio at fod 'mewn trans' pan mae'n ysgrifennu." [14]

Gosodiad

golygu

Dim ond un olygfa sydd yn y ddwy act. Mae dau ddyn yn aros ar ffordd wledig ger coeden. Mae'r sgript yn galw am i Estragon i eistedd ar dwmpath isel ond yn ymarferol - fel yng nghynhyrchiad Almaeneg Beckett ei hun ym 1975 - carreg yw hon fel arfer. Yn yr act gyntaf mae'r goeden yn foel. Yn yr ail, mae ychydig o ddail wedi ymddangos er bod y sgript yn nodi fod y digwydd "drannoeth".

Dehongliadau

golygu

"Oherwydd bod y ddrama mor foel, mor elfennol, mae'n gwahodd pob math o ddehongli cymdeithasol a gwleidyddol a chrefyddol", nododd Normand Berlin mewn teyrnged i'r ddrama yn hydref 1999, "gyda Beckett ei hun yn cael ei osod mewn gwahanol ysgolion o feddwl." [2] [15]

Drwy gydol Waiting for Godot, gall y gynulleidfa ganfod cyfeiriadau crefyddol, athronyddol, clasurol, seicdreiddiol a bywgraffiadol – yn enwedig yn mewn adeg o ryfel. Mae yna agweddau ac elfennau defodol wedi eu benthyca'n uniongyrchol o vaudeville, [16] ac mae peryg o wneud môr a mynydd o'r rhain.

Gwleidyddol

golygu

"Fe'i gwelwyd fel alegori i'r Rhyfel Oer" neu o Wrthsafiad Ffrainc i'r Almaenwyr. Noda Graham Hassell, "bod ymweliadau ymwthiol Pozzo a Lwcus [...] yn gallu ein hatgoffa o agwedd Iwerddon tuag at Brydain". [17]

Hunangofiannol

golygu

Mae Waiting for Godot wedi'i ddisgrifio fel "trosiad o'r daith hir wnaeth Beckett a Suzanne i mewn i Roussillon, pan gysgodd y ddau mewn tas wair [...] yn ystod y dydd a cherdded gyda'r nos [...] [neu] o berthynas Beckett â Joyce". [13] Dywedodd Beckett wrth Ruby Cohn fod darlun Caspar David Friedrich Two Men Contemplating the Moon, a welodd ar ei daith i'r Almaen ym 1936, yn ffynhonnell i'r ddrama. [18]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1950au i 1969

golygu

Ffrainc a'r Almaen

golygu

"Ar y 17 Chwefror 1952 [...] perfformiwyd fersiwn gryno o'r ddrama yn stiwdio Club d'Essai de la Radio ac fe'i darlledwyd ar radio [Ffrangeg]" [19]

Cyhoeddwyd y ddrama gyntaf ym Medi 1952 gan Les Éditions de Minuit [20] [21] a'i rhyddhau ar 17 Hydref 1952 cyn y perfformiad theatrig llawn cyntaf; [22] dim ond 2500 o gopïau a argraffwyd.[23] Ar 4 Ionawr 1953, "daeth bron deg adolygydd i générale En attendant Godot cyn yr agoriad cyhoeddus [...] Yn groes i chwedl ddiweddarach, roedd yr adolygwyr yn garedig [...] Roedd rhyw ddwsin o adolygiadau mewn papurau dyddiol yn amrywio o oddefgar i frwdfrydig [...] Roedd adolygiadau o'r penwythnosau [yn] hwy ac yn fwy brwd; ar ben hynny, ymddangosasant mewn pryd i ddenu gwylwyr i'r rhediad hirach" [24] a ddechreuodd ar 5 Ionawr 1953 yn y Théâtre de Babylone, Paris .

Yn y Deyrnas Unedig

golygu

Fel pob un o gyfieithiadau Beckett, nid cyfieithiad llythrennol o En attendant Godot a gafwyd yn y Waiting for Godot Saesneg. "Mae gwahaniaethau bychan ond arwyddocaol yn y testun Ffrangeg a'r Saesneg. Mae rhai, fel anallu Vladimir i gofio enw'r ffermwr (Bonnelly),[25] yn dangos sut y daeth y cyfieithiad yn fwy amhenodol [...] a cholli'r cof yn fwy amlwg." [1] Dilëwyd nifer o fanylion bywgraffyddol, er mwyn ychwanegu at yr "amwyster" cyffredinol, ac fe barhaodd i docio'r testun am weddill ei oes.[26]

Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf yn Saesneg ar 3 Awst 1955 yn yr Arts Theatre, Llundain, wedi'i gyfarwyddo gan y Peter Hall, 24 oed. Yn ystod ymarfer cynnar, dywedodd Hall wrth y cast "Does gen i ddim syniad am ystyr rhannau ohono [...] Ond os byddwn ni'n stopio a thrafod pob llinell, fyddwn ni byth yn agor." [27] Unwaith eto, roedd y fersiwn brintiedig yn ei rhagflaenu (Efrog Newydd: Grove Press, 1954) ond ni ddaeth argraffiad wedi'i gywiro tan 1956. Cynhyrchwyd argraffiad "cywir" wedi hynny ym 1965. "Mae'r testun mwyaf cywir yn y Theatrical Notebooks I, (Ed.) Dougald McMillan and James Knowlson (Faber and Grove, 1993). Mae'n seiliedig ar ddiwygiadau Beckett ar gyfer ei gynhyrchiad Schiller-Theatre (1975) a Gweithdy Drama San Quentin Llundain, yn seiliedig ar gynhyrchiad Schiller ond wedi'i ddiwygio ymhellach yn Riverside Studios (Mawrth 1984)." [1]

Yn y 1950au, roedd theatr Prydeinig wedi'i sensro'n llym, er mawr syndod i Beckett. Mynnai yr Arglwydd Chamberlain [y sensor Prydeinig] fod y gair 'erection' yn cael ei ddileu. Daeth 'Fartov' yn 'Popov' a chafodd Mrs Gozzo 'warts' yn lle y 'clap'. [13]

Bu ymdrechion i wahardd y perfformiadau yn gyfan gwbl. Ysgrifennodd y Fonesig Dorothy Howitt at yr Arglwydd Chamberlain, gan ddweud: "Un o'r themâu niferus sy'n rhedeg drwy'r ddrama yw awydd dau hen dramp i leddfu eu hunain yn barhaus. Mae dramateiddio fath beth ag angenrheidiau toiled yn dramgwyddus ac yn erbyn pob synnwyr o wedduster Prydeinig."

"Agorwyd y fersiwn heb ei golygu o Godot yn Lloegr [...] yn y Royal Court ar 30 Rhagfyr 1964." [13]

Nid oedd y beirniaid yn garedig ond "newidiodd popeth ddydd Sul 7 Awst 1955 gydag adolygiadau Kenneth Tynan a Harold Hobson yn The Observer a The Sunday Times. Roedd Beckett bob amser yn ddiolchgar i'r ddau adolygydd am eu cefnogaeth [...] a drawsnewidiodd y ddrama dros nos i gynddaredd Llundain." [28] "Ar ddiwedd y flwyddyn, cynhaliwyd Gwobrau Drama'r Evening Standard am y tro cyntaf [...] Roedd barn y gwrthbleidiau, dan arweiniad Syr Malcolm Sargent, yn bygwth ymddiswyddo pe bai Godot yn ennill [categori y Ddrama Newydd Orau]. Gweithiwyd ar gyfaddawd trwy newid teitl y wobr, a daeth Godot yn Ddrama Fwyaf Dadleuol y Flwyddyn.

Yn Gymraeg

golygu

Gweler: Wrth aros Godot.

Gweler hefyd

golygu
  • Denis Johnston, "Waiting with Beckett", Irish Writing, Gwanwyn 1956, tt. 23–28.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Ackerley & Gontarski 2006.
  2. 2.0 2.1 Berlin 1999.
  3. Quoted in Le Nouvel Observateur (26 Medi 1981) and referenced in Cohn, R., From Desire to Godot (Llundain: Calder Publications; New York: Riverrun Press), 1998, p. 150
  4. Cronin 1997, t. 382.
  5. Beckett 1988, t. 21.
  6. Beidler, Philip D. (2022). The great beyond: art in the age of annihilation. Tuscaloosa: The University of Alabama Press. tt. 112–113. ISBN 9780817321260.
  7. Mercier, V., Beckett/Beckett (Llundain: Souvenir Press, 1990), p. 53
  8. Beckett 1988, t. 91.
  9. Colin Duckworth's introduction to En attendant Godot (Llundain: George G Harrap & Co, 1966), lx. Quoted in Cohn, R., From Desire to Godot (Llundain: Calder Publications; New York: Riverrun Press, 1998), p. 150
  10. Bair 1990, t. 405.
  11. Interview with Peter Woodthorpe, 18 Chwefror 1994. Knowlson, J., Damned to Fame: The Life of Samuel Beckett (Llundain: Bloomsbury, 1996), p. 785 n. 166
  12. SB wrtha Barney Rosset, 18 Hydref 1954 (Syracuse). Quoted in Knowlson, J., Damned to Fame: The Life of Samuel Beckett (Llundain: Bloomsbury, 1996), p. 412
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 Bair 1990.
  14. Mercier, V., Beckett/Beckett (Llundain: Souvenir Press, 1990), p. 87
  15. Genest, G., "Memories of Samuel Beckett in the Rehearsals for Endgame, 1967" in Ben-Zvi, L., (Ed.) Women in Beckett: Performance and Critical Perspectives (Urbana and Chicago: University of Illinois Press, 1992), p x
  16. The game of changing hats is an echo of the Marx Brothers' film Duck Soup, which features almost exactly the same headgear-swapping action. See Knowlson, J., Damned to Fame: The Life of Samuel Beckett (Llundain: Bloomsbury, 1996), p. 609.
  17. Hassell, G., What's On' Llundain Error in Webarchive template: URl gwag., 2 – 9 Gorffennaf 1997.
  18. Knowlson, James (1996). Damned to Fame. The Life of Samual Beckett. Llundain: Bloomsbury. tt. 254, 378, 609.
  19. Knowlson, James, Damned to Fame: The Life of Samuel Beckett (Llundain: Bloomsbury, 1996), pp. 386, 394
  20. Beckett, Samuel (2012). Waiting for Godot: A Tragicomedy in Two Acts (yn Saesneg). Llundain: Faber & Faber. Table of Dates. ISBN 978-0571297016. Cyrchwyd 21 Hydref 2020.
  21. Beckett, Samuel (1952). En attendant Godot. Paris: Les Éditions de Minuit. Printer's Notice at rear of the first edition states "achevé d'imprimer sur les presses de l'imprimerie habauzit a Aubenas (Ardèche), en septembre mil neuf cent cinquante deux. Dépôt légal 3e trimestre 1952".
  22. McCrum, Robert (15 Awst 2016). "The 100 best nonfiction books: No 29 – Waiting for Godot by Samuel Beckett (1952/53)". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mehefin 2020. Cyrchwyd 18 Ionawr 2019.
  23. Knowlson, James (1971). Samuel Beckett: An Exhibition Held at Reading University Library, May to July 1971. Llundain: Turret Books. t. 61. Cyrchwyd 21 Hydref 2020.
  24. Cohn, Ruby, From Desire to Godot (Llundain: Calder Publications; New York: Riverrun Press), 1998, pp. 153, 157
  25. A farmer in Roussillon, the village where Beckett fled during World War II; he never worked for the Bonnellys, though he used to visit and purchase eggs and wine there. See Cronin 1997
  26. An expression coined by Beckett in which he makes the "meaning" less and less clear at each draft. A detailed discussion of Beckett's method can be found in Pountney, R., Theatre of Shadows: Samuel Beckett's Drama 1956–1976 (Gerrards Cross: Colin Smythe, 1988) although it concentrates on later works when this process had become more refined.
  27. Klein, Alvin (2 Tachwedd 1997). "Decades Later, the Quest for Meaning Goes On". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 4 Mehefin 2019.
  28. Knowlson, James, Damned to Fame: The Life of Samuel Beckett (Llundain: Bloomsbury, 1996), p. 415

Dolenni allanol

golygu