The Crucible
Drama gan Arthur Miller yw The Crucible (1953).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Arthur Miller |
Iaith | Saesneg |
Genre | tragedy |
Cymeriadau | John Proctor, Thomas Danforth, John Hale, Elizabeth Proctor, Rebecca Nurse, Elizabeth Parris, Tituba, Thomas Putnam, John Hathorne, Mary Warren, Sarah Osborne, Ann Putnam, Jr., Mercy Lewis, John Willard, Abigail Williams, Samuel Parris, Giles Corey |
Prif bwnc | Salem Witch Trials, McCarthyism |
Lleoliad y perff. 1af | Theatr Broadway |
Dyddiad y perff. 1af | 22 Ionawr 1953 |
Lleoliad y gwaith | Salem |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er ei bod yn cael ei chyfrif yn un o ddramâu gorau Miller, nid yw cystal â Death of a Salesman yn ôl y rhan fwyaf o'r beirniaid.
Mae'r ddrama yn seiliedig ar ddigwyddiadau a fu yn Salem, Massachusetts ym 1692. Yn y flwyddyn honno dedfrydwyd i farwolaeth a chrogwyd pedwar ar bymtheg o ddynion a menywod a oedd wedi eu cael yn euog o ymarfer gwrachyddiaeth.
Gwnaethpwyd ffilm o'r ddrama gyda Miller yn ysgrifennu'r sgript ugain mlynedd ar ôl cyhoeddi'r ddrama.
Mae John Gwilym Jones wedi gwneud addasiad Cymraeg o'r ddrama, a'i alw yn Y Crochan. Yn fwy diweddar, ysgrifennodd Gareth Miles addasiad Cymraeg ar gais y Theatr Genedlaethol a'i alw Y Pair. Bu'r Pair yn teithio Cymru yn ystod mis Chwefror a Mawrth 2008.
Themâu
golyguUn o brif themâu The Crucible ydy anoddefiad. Gosodir y ddrama mewn cymuned theocrataidd, lle mae'r eglwys a'r awdurdod gwleidyddol yn un a'r drefn grefyddol ydy'r ffurf lem ar Brotestaniaeth a elwir Piwritaniaeth. O ganlyniad i natur theocrataidd y gymdeithas, mae'r gyfraith foesol a'r gyfraith wladol yn un: materion o ddiddordeb cyhoeddus ydy pechod a statws enaid yr unigolyn. Nid oes lle i gyfeiliorni oddi ar normau cymdeithasol, gan fod unrhyw unigolyn a chanddo fywyd preifat nad yw'n cydymffurfio â'r cyfreithiau moesol sefydledig yn cynrychioli bygythiad, nid yn unig i'r lles cyffredin ond hefyd i reol Duw a'r wir ffydd. Yn Salem, mae popeth a phobun yn eiddo naill ai i Dduw neu i'r Diafol. Nid anghyfreithlon yn unig ydy anghydffurfiaeth, ond gweithgaredd Satanaidd o bosib. Fel y dywed Danforth yn Act III: "A person is either with this court or he must be counted against it." Y ffordd eithaf o orfodi anoddefiad ydy treialon y gwrachod: mae'r llys yn gwarthnodi holl wyredigion cymdeithasol gyda'r cyhuddiad o addoli'r Diafol, ac felly yn dyfarnu eu carthu trwy grogi'n farw i adfer purdeb y gymuned.
Mae camddefnydd grym hefyd yn thema gyffredin yn The Crucible. Mae plot cyfan y ddrama yn dibynnu ar unigolion yn camddefnyddio'u grym: Abigail yn bygythio'r merched i geisio profi bod Mary yn wrach; yr ynadon Danforth a'r Parchedig Parris yn defnyddio tystiolaeth wallus a rhesymu anghyfiawn yn y llys; trigolion Salem yn cyhuddo'u cymdogion o fân bechodau ac ymddygiad anarferol i haeru eu bod yn wrachod, yn aml yn ddial am rywbeth, gan fanteisio ar "ddychryn y Diafol" i setlo hen anghytundebau.