The Guls Horne-booke
Llyfr moesau dychanol Saesneg gan Thomas Dekker, un o brif ddramodwyr a phamffledwyr Oes Iago, yw The Guls Horne-booke (1609). Parodi ydyw o lyfr cwrteisi, sydd yn ymosod ar goegynnod a galáwns Llundeinig y dydd drwy ffug-gyfarwyddiadau ynglŷn â'u hymddygiad mewn mannau cyhoeddus, gan gynnig moddion iddynt dynnu sylw at eu hunain drwy dramgwyddo eraill. Ceir disgrifiadau o alwedigaethau, dillad, ffordd o gerdded, pryd o fwyd, a gweithgareddau pleser y dyn hamddenol. Mae'n debyg i'r gwaith hwn gael ei ysbrydoli gan y gerdd "Grobianus de morum simplicitate" gan yr Almaenwr Friedrich Dedeking.[1]
Enghraifft o: | gwaith creadigol ![]() |
---|---|
Awdur | Thomas Dekker ![]() |
Gwlad | Teyrnas Lloegr ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1609 ![]() |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), t. 429.