William Rowley
Dramodydd ac actor o Loegr oedd William Rowley (tua 1585 – Chwefror 1626) sydd yn nodedig am gydweithio â sawl dramodydd arall yn Oes Iago, gan gynnwys Thomas Middleton.
William Rowley | |
---|---|
Ganwyd | 1585 |
Bu farw | 1626 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | dramodydd, actor llwyfan, actor, llenor |
Ganed Rowley yn Llundain yn y 1580au, a daeth yn actor rhywbryd cyn 1610. Ymunodd â chwmni Prince Charles's Men ac ysgrifennodd dramâu amdanynt ym 1612–13. Ymunodd yn ddiweddarach â Lady Elizabeth's Men ac yna King's Men fel dramodydd ac actor. Cyfarfu â Thomas Middleton tua 1614, a phortreadodd Rowley y cymeriadau Plumporridge yn The Inner Temple Masque (1619) a'r Fat Bishop yn A Game of Chess (1625), dwy ddrama gan Middleton. Bu farw yn Llundain, tua 40 oed.[1]
Ysgrifennodd Rowley ryw 20 o ddramâu naill ai ar ben ei hun neu yn cydweithio ag eraill, ond dim ond ychydig ohonynt sydd yn goroesi. Ymhlith ei weithiau unig mae'r drasiedi ramantaidd All's Lost by Lust (perfformiwyd 1619) a'r comedïau A New Wonder, A Woman Never Vext (tua 1610), A Match at Mid-Night (tua 1607), ac A Shoo-maker a Gentleman (tua 1608). Cyhoeddwyd y rhain i gyd yn y 1630au. Cyd-ysgrifennodd A Faire Quarrell (perfformiwyd tua 1616), The Changeling (1622), Wit at Several Weapons (tua 1616; a briodolir weithiau ar gam i John Fletcher), a The World Tost at Tennis (1620) gyda Thomas Middleton; The Old Law (tua 1615) gyda Middleton a Philip Massinger; Fortune by Land and Sea (tua 1609) gyda Thomas Heywood; The Witch of Edmonton (1621) gyda Thomas Dekker a John Ford; a The Maid in the Mill (1623) gyda John Fletcher. Mae tudalen glawr The Birth of Merlin, or: The Child Hath Found His Father (1662) yn honni, ar gam, i Rowley gyd-ysgrifennu'r ddrama honno gyda William Shakespeare.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) William Rowley. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2020.