The War of the Worlds

Wedi'i chyhoeddi yn 1898, nofel ffuglen wyddonol yw The War of the Worlds ("Y Rhyfel y Bydoedd") gan yr awdur o Sais H. G. Wells.

War of the Worlds original cover bw.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurH. G. Wells Edit this on Wikidata
IaithTsieceg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1898 Edit this on Wikidata
Genrenofel apocolyptaidd, ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLloegr Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Argraffiad cyntaf, 1898

Y StoriGolygu

Rhybudd: Datguddir plot y llyfr yn yr erthygl hon.

Wedi'i lleoli yn bennaf yn nhrefi bach Surrey, de-ddwyrain Lloegr, mae'r stori'n disgrifio ymosodiad ar y Ddaear gan fyddin o'r blaned Mawrth.

Mae'r rhan fwyaf o'r cyffro yn cael ei ddisgrifio o safbwynt storïwr di-enw sy'n byw yn nhref Woking pan mae'r cyntaf o longau gofod y Mawrthiaid yn glanio. (Mae cofeb bellach yn y dref honno i ddigwyddiadau'r stori). Pur ddifater yw'r storïwr a phawb o'i gwmpas nes y daw'n amlwg bod yr estroniaid am ddisodli'r ddynoliaeth fel llywodraethwyr y blaned. Gan sylweddoli'r perygl, mae'r storïwr yn danfon ei wraig ymlaen i Leatherhead at ei theulu, ac yn treulio rhan fawr o'r stori wedyn yn ceisio ei dilyn hi yno. Yn ystod ei deithiau, mae e'n cwrdd â dau brif gymeriad arall y nofel, magnelwr penchwiban sy'n breuddwydio am greu gwareiddiad newydd yn y twnneli a charthffosydd o dan Lundain, a churad hanner pan sy'n credu bod Duw'n cosbi'r Ddaear trwy'r Mawrthiaid.

Gyda chasgliad brawychus o arafau dinistriol, gan gynnwys peiriannau ymladd tair-coesog yn saethu pelydrau gwres a mwg du marwol, mae'r ymosodwyr yn symud tua'r gogledd, gan yrru'r rhan fwyaf o bologaeth Llundain ar ffo. Mae'r storïwr yn cerdded ar ei ben ei hunan trwy strydoedd gwag y ddinas, gan dybio mai fe yw'r unig ddyn byw yno. Daw'r stori i ben yn ddramatig pan ddaw e ar draws nifer o'r Mawrthiaid yn marw, ac yn sylweddoli eu bod nhw wedi'u trechu gan facteria naturiol y Ddaear.

Neges y LlyfrGolygu

Bu sawl dehongliad ar neges ac ystyr y llyfr. Yn sicr, condemniad yw e ar hubris a hyder gormodol pobl Oes Fictoria, a'u cred mai nhw oedd meistri naturiol y Ddaear. At hynny, mae yna gymhariaethau agored gan yr awdur rhwng y ffordd y mae'r Mawrthiaid yn trin pobl y Ddaear a'r ffordd yr oedd Ewropeaid wedi trin pobloedd eraill y byd. (Mae H. G. Wells yn sôn yn benodol yn y llyfr am fel y bu Ewropeaid yn gyfrifol am ddileu hil y Tasmaniaid yn gyfan gwbl o fewn prin bum deng mlynedd).

Fe ellir gweld hefyd yn y llyfr ddadl dros hawliau anifeiliaid: wrth ei gael ei hunan ar ei ben ei hunan yng nghefn gwlad Surrey, a'r Mawrthiaid ar ei ôl, mae'r storïwr yn siarad gyda chryn gydymdeimlad am dynged y creaduriaid y mae dynion yn eu hela.

AddasadiauGolygu

Addaswyd y nofel yn ddrama radio yn 1938 gan Orson Welles a'i Gwmni Theatr Mercury. Symudwyd y lleoliad i New Jersey, a chyflwynodd yr actorion y stori mewn dull newyddiadurol, fel pe baent yn adrodd stori hollol wir. Mor effeithiol oedd hyn nes bod llawer o bobl yn gwir gredu bod y Mawrthiaid wedi glanio yn Unol Daleithiau America, gan ffoi o'u cartrefi dan fraw.

Trowyd The War of the Worlds yn ffilm yn 1953 gan y cyfarwyddwr Byron Haskin, ond cynhyrchiad eithaf di-fflach oedd hwn, ac iddo neges wrth-Gomiwynyddol ddiflas o amlwg.

Yn 1978, trowyd y stori yn opera roc gan y cerddor Jeff Wayne, a Richard Burton yn cymryd rhan y storïwr.

Yn 1988-1990 roedd yna ddwy gyfres o fersiwn teledu Americanaidd o'r War of the Worlds, gyda'r Mawrthwyr yn deffro o aeafgwsg - roeddent wedi bod yn cysgu ers y ffilm 1953!

Cafwyd ail addasiad ffilm yn 2005 gan y cyfarwyddwr Steven Spielberg, ond pur gymysg oedd barn y beirniaid ar hwn.