Theatr Derek Williams

Lleoliad perfformio dramâu, cyngherddau, sinema a digwyddiadau cymdeithasol sy'n rhan o gampws Ysgol Godre'r Berwyn, Y Bala

Man adloniant a pherfformiad amlbwrpas yr Theatr Derek Williams. Fe'i lleolir yn rhan o gampws Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala. Enwyd ar ôl Derek Williams (a sillefir hefyd yn 'Derec' Williams).[1]

Theatr Derek Williams
Enghraifft o'r canlynoltheatr, sinema, canolfan gymunedol Edit this on Wikidata
Lleoliady Bala Edit this on Wikidata
Prif Fynedfa hen Ysgol y Berwyn yn 2007, safle ysgol 'newydd' Ysgol Godre'r Berwyn, lleoliad Theatr Derek Williams

Defnydd newydd golygu

Gydag ad-drefnu addysg yn y y Bala yn yr 2010au gan gyfuno ysgolion cynradd y dref gydag Ysgol Uwchradd y Berwyn, penderfynnod y llywodraethwyr a’r pennaeth fod yr ysgol yn cael ei defnyddio’n helaeth gan yr holl gymuned. Un elfen hanfodol wrth hyrwyddo’r weledigaeth hon oedd y theatr. Wrth ail-wampio hen adeilad Ysgol y Berwyn yr oedd yr hen neuadd yn cael ei huwchraddio ac yn dechrau cael ei datblygu yn lle mwy croesawgar a chyfforddus i berfformwyr a chynulleidfa. Gwnaed apêl am gefnogaeth gan gynull nifer o bobl â diddordeb i ffurfio corff a fyddai’n cynnal a datblygu’r theatr.[1]

Derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Gyngor Gwynedd yn 2019 i ddatblygu’r theatr a gwella’r adnoddau a’r drefn ymhellach. Y bwriad yw darparu a dangos adloniant i bobl Penllyn, Edeyrnion, Uwchaled a thu hwnt.[2]

Enwi’r theatr golygu

Penderfynwyd yn unfrydol oedd galw'r man perfformio newydd yn Theatr Derek Williams.

Bu Derek yn athro mathemateg yn Ysgol y Berwyn o 1983 hyd 2009 gyda diddordeb mawr ym myd y celfyddydau. Bu’n cyfansoddi sgriptiau a geiriau caneuon, yn cynhyrchu pob math o sioeau gan ysbrydoli cenedlaethau o blant a phobl ifanc. Yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a fu’n gyfrifol am sioeau cerdd tebyg i ‘Y Mab Darogan’, ‘Pum Diwrnod o Ryddid’ ac ‘Ann!

Bydd yr enw hwn yn fodd i gofio ac i dalu teyrnged i waith Derek Williams yn yr ysgol a’r ardal.[1] Mab i Derek yw'r perfformiwr Meilyr Rhys Williams[3] sydd wedi bod yn rhan o ensemble Cabarela.

Arlyw golygu

Mae Theatr Derek Williams yn dangos arlyw eang o adloniant - ffilmiau Hollywood, dramâu Cymraeg a Saesneg, cyngherddau pop Cymraeg, darllediadau byw o ddramâu llwyfan Saesneg. Ymysg yr artistiaid Cymraeg i berfformio yno yn 2024 mae; Cowbois Rhos Botwnnog a Mynediad am Ddim ac yn 2023 roedd sioe Nadolig Cabarel.[4]

Mae hefyd modd llogi'r lleoliad ar gyfer digwyddiadau preifat neu gymunedol.

Dolenni allannol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Hanes". Gwefan Theatr Derek Williams. Cyrchwyd 18 Mawrth 2024.
  2. "Gwefan Theatr Derek Williams". Cyrchwyd 18 Mawrth 2024.
  3. "Pwy? Be? Pam?". Hansh. 2021.
  4. "Digwyddiadau". Gwefan Theatr Derek Williams. Cyrchwyd 18 Mawrth 2024.