Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley
gwleidydd (1585-1659)
(Ailgyfeiriad o Thomas Bulkeley, Is-iarll Bulkeley)
Aelod o deulu Bulkeley, Baron Hill, Ynys Môn oedd Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley (10 Awst 1585 – 1659). Roedd yn fab i Syr Richard Bulkeley.[1]
Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley | |
---|---|
Ganwyd | 10 Awst 1585 |
Bu farw | 1659 |
Man preswyl | Bryn y Barwn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | Richard Bulkeley (bu farw 1621) |
Mam | Mary Burgh |
Priod | Blanche Coytmore |
Plant | Henry Bulkeley, Richard Bulkeley, Robert Bulkeley, Thomas Bulkeley, Mary Cashel, Penelope Bulkeley, Katherine Bulkeley, Lumley ferch Thomas Bulkeley |
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, roedd Thomas Bulkeley yn gryf o blaid y brenin Siarl I, gan wasanaethu fel Cyrnol yn y fyddin frehninol. Yn 1644, urddwyd ef yn Is-iarll Bulkeley o Cashel. Lladdwyd ei fab hynaf, Richard Bulkeley, gan Thomas Cheadle mewn gornest ar Draeth Lafan yn 1649, ac ar farwolaeth Thomas, etifeddwyd y stad a'r Is-iarllaeth gan ei ail fab, Robert Bulkeley.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Nicholas (1872). Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales: Containing a Record of All Ranks of the Gentry ... (yn Saesneg). Longmans, Green, Reader. t. 39.