Thomas Gwilym Pritchard (Glan Tywi)
Athro, cyfrifydd, bardd a beirniad o Gymro oedd Thomas Gwilym Pritchard (23 Tachwedd 1846 – 12 Medi 1924).[1] Fe'i ganwyd yn ffermdy Dugoedydd ar lannau Afon Tywi ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn un o saith o blant a anwyd i David ac Annie Pritchard.
Tua 1862 ymfudodd y teulu i'r Unol Daleithiau ond yn 1875 dychwelodd Thomas Gwilym Pritchard i Gymru gyda'i gefnder D.B. Williams. Buont yn teithio i sawl gwahanol rhan o Gymru cyn mynd i Lerpwl i ymuno â grŵp Edwin Cynrig Roberts ac hwylio i Batagonia ar y llong Vandyke. Ar 25 Tachwedd 1875 ymadawont â Lerpwl gan gyrraedd Buenos Aires ar fore Dydd Nadolig ac hwylio ymlaen ar y Santa Rosa ar yr un diwrnod i Chubut.
Dyn hunan-ddisgedig oedd Thomas Gwilym Pritchard, yn ddarllenydd mawr ac yn ddyn pwyllog, gyda barn ystyriol. Roedd yn gryf ei ewyllys ac yn driw i'w gred. Bu'n ysgolfeistr yn ysgol ddydd Rawson ac yn ôl pob tebyg roedd yn athro da iawn. Ar ôl hynny bu'n athro yng Nglyn Du ac mewn rhai blynyddoedd rhwng dysgu yn yr ysgolion yng Nglyn Du a Bro Hydref bu'n gyfrifydd i John Murray Thomas yn Ystordy Pen-y-bont yn Rawson. Ar ôl dychwelyd o Fro Hydref, cafodd Thomas Gwilym Pritchard ei benodi yn gyfrifydd cyntaf Cwmni Masnachol Chubut ac fe wasanaethodd y cwmni o bryd i'w gilydd am lawer o flynyddoedd. Bu'n gweinyddu fel Dirprwy Archwiliwr yn absenoldeb y Prif Archwiliwr ac fe'i adnabyddwyd fel un o'r cyfrifyddion gorau. Yn ysgolheigaidd roedd yn ysgrifennu yn rhwydd a naturiol mewn dull hyfryd. Ei enw barddol oedd "Glan Tywi" ac roedd yn feistr ar gyfansoddi barddoniaeth yn y mesur caeth a rhydd, yn ogystal â chyfansoddi cerddi digrif a dychanol. Enillodd y Gadair yn yr eisteddfod gyntaf yn ardal Treorcki a dilynwyd y llwyddiant yma gyda'r prif wobrau am gywydd, pryddest ac englynion yn Eisteddfodau Rawson, Fron Deg a'r Gaiman. Bu farw yng nghartref ei gefnder D.B. Williams ar 12 Medi 1924 yn 78 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Eirionedd A. Baskerville, Companion to the Welsh Settlement in Patagonia Archifwyd 2022-06-09 yn y Peiriant Wayback (Cymdeithas Cymru Ariannin, 2014)