Thomas Lloyd (is-lywodraethwr)
Roedd Thomas Lloyd (6 Ebrill 1640 – 10 Medi 1694) yn is-lywodraethwr Talaith Pennsylvania a phregethwr yn enwad y Crynwyr.
Thomas Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ebrill 1640 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | 10 Medi 1694 Philadelphia |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg |
Tad | Charles Lloyd |
Mam | Elizabeth Stanley |
Priod | Mary Jones |
Plant | Rachel Lloyd, Deborah Moore, Mary Norris, Hannah Lloyd Delaval Hill |
llofnod | |
Bywyd Cynnar
golyguRoedd yn drydydd mab i Charles I Lloyd (1597-) o Ddolobran, ym mhlwyf Meifod, Sir Drefaldwyn, gan ei wraig Elizabeth Stanley, aelod o linell iau teulu Stanley, ieirll Derby.[1]
Gyrfa
golyguAddysgwyd ef yn Ysgol Rhuthun. Astudiodd y gyfraith a meddygaeth yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd ym 1661. Daeth yn Grynwr, ac ym 1664 cafodd ei arestio a'i garcharu yn y Trallwng hyd gyhoeddi'r Datganiad Rhyddhad Brenhinol ym 1672.[2]
Daeth yn feddyg, a bu ganddo bractis eang; ond ym 1683 ymfudodd ef a'i deulu i Pennsylvania gyda William Penn oherwydd parhad yr erledigaeth grefyddol. Penododd Penn ef yn feistr y rholiau. Fe'i dewiswyd i gynrychioli Philadelphia County yn y cyngor taleithiol ym mis Ionawr 1684, ac fel ei lywydd bu'n gweinyddu'r llywodraeth ar ôl i Penn hwylio i Loegr ym mis Awst hyd 9 Rhagfyr 1687, pan oedd yn un o gomisiwn gweithredol o bump a ddaliodd bŵer am ddeng mis.
Etholwyd ef unwaith eto i'r cyngor i gynrychioli Bucks County ym 1689, a chymerodd ei sedd er gwaethaf gwrthwynebiad y llywodraethwr, John Blackwell, gyda'r hwn yr oedd ef ac eraill o blaid y Crynwyr wedi cael anghydfod. Disodlwyd Blackwell o'i swydd gan Penn, a dewiswyd Lloyd unwaith eto'n llywydd y cyngor. Wedyn comisiynwyd ef yn is-lywodraethwr gan Penn, a bu'n deiliad y swydd o 1690 i 1693. Yn ystod ei weinyddiaeth, digwyddodd y sgism dan arweiniad George Keith .
Cyhoeddwyd dau o'i bamffledi yn pledio achos y Crynwyr yn ddiweddarach: Llythyr i fy Annwyl a hoff Gyfeillion yn Nolobran" ym 1788 a "Llythyr i John Eccles a'i Wraig" ym 1805.[2]
Bywyd Personol
golyguPriododd ddwywaith, yn gyntaf â Mary Jones (m.1680), merch y Col. Roger Jones o'r Trallwng, Llywodraethwr Dulyn yn ystod teyrnasiad y Brenin Iago II, a drechodd Ardalydd Ormond yn Iwerddon. Yn ail, priododd â Patience Storey, ni fu iddynt blant.[3]
Mae'n debyg ei fod yn gefnder i David Lloyd, y barnwr a'r gwleidydd yn Nhalaith Pennsylvania.[4]
Marwolaeth
golyguBu farw yn Pennsylvania, 10 Medi 1694.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Burke, Burke's Genealogical and Heraldic History of the Landed Gentry, 15th Edition, ed. Pirie-Gordon, H., London, 1937, pp.1392-3
- ↑ 2.0 2.1 Jones, E. D., (1953). LLOYD (TEULU), Dolobran, Sir Drefaldwyn.. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 13 Gor 2019
- ↑ Burke, John, A Genealogical and Heraldic History of the Commoners of Great Britain and Ireland, Vol.4, London, 1838, pp.107-114, achau teulu "Lloyd, Dolobran", p.108
- ↑ "WELSH EMIGRANTS - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-12-09. Cyrchwyd 2019-07-13.
- ↑ Colonial and Revolutionary Families of Pennsylvania, J.W. Jordan, 1911