Thomas Phillips Price
Roedd Thomas Phillips Price (1844 – 28 Mehefin, 1932) yn fargyfreithiwr, yn dirfeddiannwr, ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Gogledd Sir Fynwy.
Thomas Phillips Price | |
---|---|
Ganwyd | 1844 |
Bu farw | 28 Mehefin 1932 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd personol
golyguGanwyd Price yn Llanarth, Sir Fynwy, yn fab i'r Parchedig William Price, offeiriad y plwyf, a Mary ei wraig. Fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Plwyf Llanarth ym mis Awst 1844.[1] Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Caerwynt a Choleg y Brifysgol, Rhydychen.[2]
Bu'n briod dair gwaith. Priododd Frances Anne Rowlett, merch y Parch. Ganon J. C. Rowlett, Caerwysg, ym 1882[3]; bu hi farw ym 1897. Ym 1899 priododd Florence Cecilia Konstamm, merch Berman Konstam, marsiandwr o Pimlico, Llundain;[4] bu hi farw ym 1926. Ym 1927 priododd Mary Elizabeth Swann, merch y Gwir Barch. Robert Swann, Deon Nassau.[5]
Gyrfa
golyguGalwyd Price i'r Bar yn y Deml Fewnol ym 1869.
Ym 1867 etifeddodd Price ffortiwn ei ewyrth Syr Thomas Phillips a rhan mewn mwyngloddiau yn Sir Gaerloyw a Dyffryn Aman.[6] Ategodd at ei ddiddordebau mwynol trwy agor pyllau glo yn Llanhiledd ac Ebbw Fach. Fe adeiladodd rheilffordd a glanfa ym Mrynbuga a bu'n gyfrifol am ddatblygu ac ehangu ystâd Llys Triley yn y Fenni.
Bu'n gwasanaethu fel Capten ym Milisia Sir Fynwy hyd ymddiswyddo o'i gomisiwn ym 1883.[7]
Ym 1898 brynodd Marks Hall, plasty Jacobiaid ac ystâd ger Coggeshall yn Essex; gwnaeth darpariaeth yn ei ewyllys i adael y stad i'r genedl er lles amaethyddiaeth, coedyddiaeth a choedwigaeth.[8]
Bu'n gwasanaethu fel ynad heddwch yn Sir Fynwy ac Essex.[9]
Gyrfa wleidyddol
golyguYm 1882 gwasanaethodd Phillips fel Uchel Siryf Sir Fynwy.[10] Bu yn weithgar dros yr achos Rhyddfrydol yn etholaeth Sir Fynwy yn etholiad cyffredinol 1880 a bu yn gweithredu fel Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Casnewydd; cafodd ei enwebu i sefyll fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn sedd newydd Gogledd Sir Fynwy ar gyfer etholiad cyffredinol 1885,[11] gan ennill y sedd[12] a'i gadw hyd ei ymddeoliad o'r Senedd ym 1895.[13]
Wedi ymneilltuo o'r senedd, symudodd i fyw i Essex lle fu'n gwasanaethu fel cynghorydd sir dros ward Coggeshall o 1903; fe fu hefyd yn aelod o'r awdurdod addysg y sir.[9]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Marks Hall, yn 88 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Marks Tey.[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cofrestr Bedydd Llanarth 1844 T52 Rhif409 (Gwasanaethau Archifau Cymru)
- ↑ "TheWelshMembers – The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1892-08-06. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ "FamilyNotices – Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1882-01-20. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ "SOUTHWALESWEDDING – Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1899-07-12. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ "Court and Social", Chelmsford Chronicle, 23 Medi 1927
- ↑ "onilJirteHrgettceI – The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1867-07-20. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ "SWANSEAANDDISTRICTNEWS – The Cambrian". T. Jenkins. 1883-04-06. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ Marks Hall – Thomas Phillips Price [1] Archifwyd 2016-06-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Gorffennaf 2015
- ↑ 9.0 9.1 "Death of T P Price JP", Chelmsford Chronicle, 1 Gorffennaf 1932
- ↑ "ENWI UCHEL SIRYDDION – Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1881-11-23. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ "THE LIBERAL CANDIDATES FOR MONMOUTHSHIRE – South Wales Echo". Jones & Son. 1885-08-22. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ "YR ETHOLIAD – Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1885-12-09. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ "YR ETHOLIADAU YNG NGHYMRU – Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1895-07-27. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ "The late T P Price JP funeral at Marks Tey", Chelmsford Chronicle, 8 July 1932
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Gogledd Sir Fynwy 1885 – 1895 |
Olynydd: Reginald McKenna |