Thomas Rowland Hughes
Nofelydd, dramodydd a bardd oedd Thomas Rowland Hughes neu T. Rowland Hughes (17 Ebrill 1903 – 24 Hydref 1949). Roedd yn fab i chwarelwr o Lanberis, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw), gogledd Cymru. Mae'n adnabyddus heddiw yn bennaf am ei nofelau am gymeriadau yn byw ac yn gweithio yn chwareli llechi y gogledd, ond yn ei ddydd yr oedd yn cael ei edmygu fel bardd yn ogystal. William Jones yw ei nofel enwocaf.
Thomas Rowland Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ebrill 1903 ![]() Llanberis ![]() |
Bu farw | 24 Hydref 1949 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd ![]() |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Ei fywydGolygu
Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor, ac astudiodd hefyd yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen. Ei swydd bwysicaf oedd fel cynhyrchydd gyda'r BBC yng Nghaerdydd. Ac yntau yn ei dridegau dechreuodd ddioddef o'r clefyd calediad amryfal a adwaenir fel 'MS'. Yn naturiol aeth i ddioddef o iselder ysbryd ac aeth ati i ysgrifennu a dyma pryd y cynhyrchwyd ei nofelau enwog.
Fel bardd y daeth i enwogrwydd gyntaf, trwy ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937 am ei awdl "Y Ffin", ac eto am "Pererinion" yn yr Eisteddfod Genedlaethol a ddarlledwyd ar y radio yn 1940.[1] Nid oedd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Cân neu Ddwy (1948), er ei phoblogrwydd, yn ddigon arbennig i'w osod ymhlith beirdd mwyaf yr 20g.
Mae ei emyn "Tydi a Roddaist" wedi bod yn hynod o boblogaidd.
CyhoeddiadauGolygu
BarddoniaethGolygu
- Cân neu ddwy (Gwasg Gee, 1948)
NofelauGolygu
- O Law i Law (Llundain, 1943); wedi'i gyfieithu i'r Saesneg fel From Hand to Hand gan Richard C. Ruck (Llundain, 1950); talfyriad ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg gan Basil Davies (Gwasg Gomer, 1984)
- William Jones (1944); wedi'i gyfieithu i'r Saesneg gan Richard C. Ruck (Aberystwyth, 1953); talfyriad ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg gan Basil Davies (Gwasg Gomer, 1986)
- Yr Ogof (Gwasg Aberystwyth, 1945)
- Chwalfa (Gwasg Aberystwyth, 1946)
- Y Cychwyn (Gwasg Aberystwyth, 1947); wedi'i gyfieithu i'r Saesneg fel The Beginning gan Richard C. Ruck (Gwasg Gomer, 1969)
DramâuGolygu
- Y Ffordd (Caerdydd, 1945)
- John Frost, The Newport Chartist (1936) a Daughters of Rebecca (1937 dau ddrama radio Saesneg ar y BBC a ysgrifennodd ar y cyd gyda Gwilym Prichard Ambrose, Prifathro Coleg Hyfforddi Sir Fynwy [2]
I blantGolygu
- Storïau Mawr y Byd (Gwasg Aberystwyth, 1936)
AstudiaethauGolygu
- Edward Rees, Cofiant: T. Rowland Hughes (Gwasg Gomer, 1968)
- John Rowlands, T. Rowland Hughes, Cyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1975)
- W. Gwyn Lewis (gol.), Bro a Bywyd: T. Rowland Hughes 1903-1949 (Cyhoeddiadau Barddas, 1990)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ D. Ben Rees "Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif"
- ↑ "Gwilym Prichard Ambrose, B.A. (Wales), M.A., B.Litt. (Oxon.), L.R.A.M. Headmaster, Aberdare Boys' County School, 1940 – 1952". Gwefan Abderdare Boys Grammar School. Cyrchwyd 2022-02-14.
Dolenni allanolGolygu
- 'Lleol i Mi' ar wefan y BBC
- Placiau Awduron Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.