Robert John Pryse

llenor o Gymro (Gweirydd ap Rhys)
(Ailgyfeiriad o Gweirydd ap Rhys)

Hanesydd a llenor o Gymro oedd Robert John Pryse (4 Gorffennaf 18073 Hydref 1889), a ysgrifennai dan yr enw barddol Gweirydd ap Rhys.[1]

Robert John Pryse
FfugenwGweirydd ap Rhys Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Gorffennaf 1807 Edit this on Wikidata
Llanbadrig Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 1889 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHanes y Brytaniaid a'r Cymry Edit this on Wikidata
PlantJohn Robert Pryse, Catherine Prichard Edit this on Wikidata

Ganwyd ym mhlwyf Llanbadrig, Ynys Môn. Roedd ei deulu yn dlawd, ac ni dderbyniodd lawer o addysg. Gweithiodd fel gwas ffarm ac fel gwehydd cyn priodi Grace Williams o Lanfflewyn ym 1828, ac o hynny hyd 1857 yn Llanrhyddlad y sefydlodd, yn cadw siop. Wrth godi teulu o saith o blant, fe aeth ati i addysgu ei hun yn ystod y nos. Dysgodd Saesneg, Groeg a Lladin, yn ogystal ag astudio hanes a llenyddiaeth Cymru. Ym 1849 urddwyd ef yn fardd, dan yr enw "Gweirydd ap Rhys", yn Eisteddfod Aberffraw. Ym 1857 symudodd i Ddinbych i weithio yn swyddfa Gwasg Gee yn bennaf gyda'r Gwyddoniadur Cymreig a geiriaduron. Ar ôl marw ei fab, y bardd John Robert Pryse ("Golyddan"), ym 1862, symudodd i Fangor i geisio ennill bywoliaeth fel awdur. Cyhoeddodd Hanes y Brytaniaid a'r Cymry (1872) a Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1300–1650 (1883). Oherwydd gwaeledd a henaint symudodd i Gaergybi at ei ferch, y bardd Catherine Prichard ("Buddug"), yn 1884. Wedi marw ei wraig ym 1887 aeth i Fethesda at ei ferch hynaf, Elin, ac yno y bu farw ym 1889.

Un o'r llenorion mwyaf gweithgar o'r 19g oedd ef. Cyhoeddodd lawer o erthyglau a llyfrynnau; cyfrannodd fwy na neb tuag at Y Gwyddoniadur Cymreig; lluniodd bum geiriadur; golygodd sawl llyfr, yn eu plith argraffiad o The Myvyrian Archaiology of Wales (1870), ac o'r Beibl (1876); ac ef a olygodd y rhan fwyaf o Enwogion y Ffydd (1878–84).

Llyfryddiaeth golygu

 
Geiriadur Cymraeg a Saesneg gan "Gweirydd ap Rhys" (Caernarfon: Welsh Publishing Co., dyddiad anhysbys, ?1860au)

Gweithiau golygu

  • Geiriadur Cynaniadol Saesneg a Chymraeg (Dinbych: Thomas Gee, 1857)
  • Orgraff yr Iaith Gymraeg (gyda Thomas Stephens) (Dinbych, 1859)
  • Hanes y Brytaniaid a'r Cymry (2 gyfrol) (Llundain: William Mackenzie, 1872–4)
  • Hanes Llenyddiaeth Gymreig, o'r flwyddyn 1300 hyd y flwyddyn 1650 (Llundain: Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1883)
  • Enwogion y Ffydd: neu, Hanes Crefydd y Genedl Gymreig (gyda John Peter) (Llundain: William Mackenzie, 1878–84)

Astudiaeth golygu

  • Enid P. Roberts, Detholion o Hunangofiant Gweirydd ap Rhys (Aberystwyth, 1949)

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu