Seiclwr proffesiynol Ffrengig ydy Thomas Voeckler (ganed 22 Mehefin 1979), sy'n arbennigo mewn rasio ffordd. Mae'n un o'r reidwyr Ffrengig mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel "arwr cenedlaethol" wedi sawl perfformiad cryf yn y Tour de France.[1]

Thomas Voeckler
Voeckler yn Ronde van Vlanderen 2012
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnThomas Voeckler
LlysenwTi-Blanc / le Chou-Chou
Dyddiad geni (1979-06-22) 22 Mehefin 1979 (44 oed)
Taldra1.77 m
Pwysau66 kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrCyffredinol
Tîm(au) Proffesiynol
2001–
Golygwyd ddiwethaf ar
12 Gorffennaf 2012

Bywgraffiad golygu

Blynyddoedd cynnar golygu

Ganed Voeckler yn Schiltigheim, Bas-Rhin, Ffrainc. Daw o ddisgyniad Alsace, a symudodd ei deulu yn ddiweddarach i Martinique, lle roddwyd iddo'r llysenw "Ti-Blanc" (petit blanc) oherwydd ei faint a'i weddw golau. Erbyn hyn, mae'n byw yn rhanbarth Vendée ar arfordir gorllewinol Ffrainc.[2] Adnabyddir hefyd fel le Chou-Chou (tarddir o'r fresychen "Sweetheart").[3] Wedi reidio fel staigaire dros Bonjour yn 2000, trodd yn broffesiynol gyda'r tîm hwnnw yn 2001, mae dal i fod gyda'r un tîm er fod y noddwyr wedi newid sawl gwaith (Bbox Bouygues Telecom, Bouygues Télécom, Brioches la Boulangère), Team Europcar yw'r enw arni erbyn hyn.

Gyrfa broffesiynol golygu

 
Voeckler yn 2001

Yn 2003, cipiodd Voeckler ddau gymal ac enillodd y dosbarthiad cyffredinol yn y Tour de Luxembourg. Y flwyddyn canlynol, daeth i adnabyddiaeth yn rhyngwladol. Enillodd y Bencampwriaeth Ras Ffordd Ffrengig, a ni feddylwyd llawer amdano wrth iddo gychwyn Tour de France 2004. Wedi diang oddiaer flaen y peloton gyda pump reidiwr arall yn ystod cymal 5, enillodd Voeckler gryn amser drostyn gan ennill iddo'r crys melyn ar gyfer y cymal canlynol, llwyddodd i ddal gafael ar y crys am 10 diwrnod, hyd yn oed dros gymalau nad oedd yn gweddu i'w gryfderau. Gyda'r crys am ei ysgwyddau a sylw mawr gan y cyfryngau, reidiodd Voeckler yn gryfach fyth. Goroesodd Mynyddoed y Pyrenees ychydig eiliadau o flaen y Lance Armstrong a fu'n fuddugol yn y diwedd. Ildiodd Voeckler y crys melyn i Armstrong ar gymal 15 yn yr Alpau. Roedd hefyd yn dal y crys gwyn am y reidiwr ifanc gorau (odan 25 oed), ond collodd hwnnw hefyd, i Vladimir Karpets, ond erbyn hyn roedd Voeckler yn arwr cenedlaethol.

Cafodd dymor rasio prysur yn 2005, gan gystadlu nifer o rasys, gan gynnwys sawl un na gysidrwyd yn addas ar gyfer steil Voeckler o reidio. Ei unig fuddugoliaeth oed yng nghymal 3 y Four Days of Dunkirk.

Yn 2006, enillodd gymal 5 Vuelta al País Vasco. Daeth yn ail yng nghymal cyntaf y Critérium du Dauphiné Libéré, ac enillodd Paris–Bourges 2006. Yn 2007, cafodd Voeckler fuddugoliaeth syfrdanol yn y Grand-Prix de Plouay Ouest-France, gan guro'r ffefrynnau wedi dianc oddiar y blaen yn hwyr yn y ras. Ymysg uchelbwyntiau 2008 Voeckler, oedd ei fuddugoliaeth yn y Circuit de la Sarthe. Yn 2009, enillodd ei gymal cyntaf yn y Tour de France, gyda chymal 5. Dihangodd Voeckler ar ei ben ei hun gyda 5 km i fynd, wedi iddo fod yn rhan o grŵp bychan oddiar flaen y peleton am ran fwyaf o'r ras.[4]

Wedi cychwyn tawel i dymor 2010, aeth Voeckler ymlaen i ennill y Bencampwriaeth Ras Ffordd Ffrengig. Llwyddodd i ddianc oddiar flaen y peleton gyda Christophe Le Mével, gan ei guro yn y sbrinti ennill ei ail deitl cenedlaethol. Deliodd ei siap yn Tour de France 2010, lle ymosododd yn aml ond yn ddi-ffrwythlon, ond llwyddodd yn y pen draw i groesi'r llinell gyntaf a chipio cymal 15.

Canlyniadau golygu

2003
1af   Tour de Luxembourg
1af Classic Loire Atlantique
1af Cymal 8 Tour de l'Avenir
2004
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd Ffrainc
1af A travers le Morbihan
1af Cymal 4 Route du Sud
18fed Tour de France
Deilydd Maillot jaune   o gymal 5–14
Deilydd Maillot blanc   o gymal 5–18
2005
1af Cymal 3 Four Days of Dunkirk
Deilydd   Brenin y Mynyddoedd wedi cymal 2 Tour de France
2006
1af Paris–Bourges
1af Cymal 5 Vuelta al País Vasco
1af   Route du Sud
1af Stage 1
2007
1af   Brenin y Mynyddoedd Paris–Nice
1af   Tour du Poitou Charentes et de la Vienne
1af Grand-Prix de Plouay Ouest-France
2008
1af   Circuit de la Sarthe
1af   Grand Prix de Plumelec-Morbihan
Deilydd   Brenin y Mynyddoedd o gymal 1–5 Tour de France
2009
1af Cymal 5 Tour de France
1af   Étoile de Bessèges
1af   Tour du Haut Var
1af Cymal 2
1af Trophée des Grimpeurs
2010
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd Ffrainc
1af Cymal 15 Tour de France
1af Grand Prix Cycliste de Québec
3ydd Giro di Sardegna
2011
1af   Tour du Haut Var
1af   Four Days of Dunkirk
1af Cymal 4 Four Days of Dunkirk
1af Cymal 1 Tour Méditerranéen
1af Cymal 4 & 8 Paris-Nice
1af Cholet-Pays de Loire
1af Cymal 2 Giro del Trentino
4ydd Tour de France
Deilydd   Maillot jaune o gymal 10–19
2012
1af Brabantse Pijl
1af Cymal 3 La Tropicale Amissa Bongo
Tour de France
1af Cymal 10
1af Cymal 16
Deilydd   Brenin y Mynyddoedd yng nghymal 11 ac 17
4ydd Liège–Bastogne–Liège
5ed Four Days of Dunkirk
5ed Amstel Gold Race
8fed Ronde van Vlanderen

Cyfeiriadau golygu

  1.  The secret life of Thomas Voeckler (11 Ebrill 2012). The secret life of Thomas Voeckler | Cycle Sport. Cyclesportmag.com. Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2012.
  2.  Voeckler In Top Form For Liège-Bastogne-Liège. Cyclingnews.com (16 Ebrill 2012). Adalwyd ar 2012-07-11.
  3.  French celebrate Thomas Voeckler's win as Mark Cavendish retains green jersey. The Guardian (8 Gorffennaf 2009).
  4. Peter Scrivener. "Live text – Tour de France", BBC, 8 Gorffennaf 2009.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: