Paris–Nice
Ras seiclo ffordd sawl cymal yw Paris–Nice, a adnabyddir fel "y ras i'r haul", a gynhalir yn Ffrainc ym mis Mawrth. Sefydlwyd ym 1933, a'r enillydd cyntaf oedd Alfons Schepers o Wlad Belg. Y reidiwr mwyaf llwyddiannus ym Mharis–Nice oedd Sean Kelly o Iwerddon, a enillodd saith ras yn ganlynol rhwng 1982 a 1988.
Er mai Paris–Nice yw enw'r ras, nid yw wastad yn cychwyn yn ninas Paris, yn hytrach mae'n aml yn cychwyn ar gyrion y ddinas neu yn un o'r trefi i'r de o Baris. Bydd cymal olaf y ras fel rheol yn gorffen ar y Promenade des Anglais yn Nice, neu ar y Col d'Eze, bwlch ar y ffordd Haute Corniche gerllaw.
Yn ystol ras 2003, bu farw reidiwr o Casachstan, Andrei Kivilev, ar ôl damwain. Ysgogwyd yr UCI i orfodi i'r reidwyr wisgo helmedau mewn cystadleuaeth yn dilyn ei farwolaeth, gyda'r eithriad o ran olaf ras lle mae'n gorffen fyny allt. Newidwyd hyn yn ddiweddarach, erbyn hyn mae'n orfodol i'r reidwyr wisgo helmed ar pob adeg mewn cystadleuaeth.
Caiff Paris–Nice ei drefnu gan yr Amaury Sport Organisation (ASO), sydd hefyd yn trefnu rasys seiclo'r Tour de France a Paris–Roubaix, yn ogystal â chwaraeon eraill megis Paris-Dakar a Marathon Paris.
Mae'r ras wedi newid dwylo sawl gwaith; rhedwyd am flynyddoedd gan y newyddiadurwr Ffrengig Jean Leulliot, a gan ei deulu yn dilyn ei farwolaeth. Cymerwyd drosodd gan enillydd Tour de France, Laurent Fignon, cyn dod yn gyfrifoldeb yr ASO. Ers 2009, mae wedi bod yn un o 24 ras ar "galendr byd" yr UCI sydd yn cyfrif tuag at Rheng y Byd, UCI.