Tour de France 2008
Tour de France 2008 oedd y 95ed rhifyn o'r Tour de France. Fe'i cynhaliwyd rhwng 5 Gorffennaf a 27 Gorffennaf 2008. Dechreuodd yn ninas Brest, Ffrainc, gan fynd i'r Eidal yn ystod y 15fed cam, a dychwelyd i Ffrainc yn ystod yr 16ed ac anelu tuag at Baris, ei safle gorffen traddodiadol, a cyrhaeddodd yno yn yr 21fed cam. Enillwyd y ras gan Carlos Sastre.
Enghraifft o'r canlynol | Tour de France |
---|---|
Math | 2.HIS |
Dechreuwyd | 5 Gorffennaf 2008 |
Daeth i ben | 27 Gorffennaf 2008 |
Rhagflaenwyd gan | Tour de France 2007 |
Olynwyd gan | Tour de France 2009 |
Yn cynnwys | 2008 Tour de France, Stage 1, 2008 Tour de France, Stage 2, 2008 Tour de France, Stage 3, 2008 Tour de France, Stage 4, 2008 Tour de France, Stage 5, 2008 Tour de France, Stage 6, 2008 Tour de France, Stage 7, 2008 Tour de France, Stage 8, 2008 Tour de France, Stage 9, 2008 Tour de France, Stage 10, 2008 Tour de France, Stage 11, 2008 Tour de France, Stage 12, 2008 Tour de France, Stage 13, 2008 Tour de France, Stage 14, 2008 Tour de France, Stage 15, 2008 Tour de France, Stage 16, 2008 Tour de France, Stage 17, 2008 Tour de France, Stage 18, 2008 Tour de France, Stage 19, 2008 Tour de France, Stage 20, 2008 Tour de France, Stage 21 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn wahanol i'r blynyddoedd cynt, ni roddwyd bonws amser ar gyfer sbrintiau yn ystod y ras nac am safleodd uchel ar ddiwedd pob cam. Newidiodd hyn y ffordd y gwobrwywyd y Crys Melyn o'i gymharu gyda'r rasys cynt.
Timau
golyguRoedd dadleuon hirfaith wedi bod rhwng trefnwyr y ras, sef yr ASO a'r UCI[1] achoswyd gwerthdaro pellach pan fynnodd y trefnwyr ar yr hawl i wahodd, neu wahardd, p'run bynnag dimau y dewisodd ar gyfer y ras. Ond o dan rheolau'r UCI, mae'n rhaid i bob ras ProTour fod yn agored i bob tîm sy'n aelod o reng uchaf yr UCI. Fe wnaeth yr ASO eu safbwynt yn glir, ac er y bu newidiadau yn rheolaeth a phersonel y tîm, roeddent yn bwriadu gwahardd tîm Astana o'r gystadleuaeth fel canlyniad i'w rhan yn ymrysonau cyffuriau yn ystod Tour de France 2007 a'u cysylltiadau gydag achos cyffuriau Operación Puerto 2006 . Roedd hyn yn golygu na allai enillydd y ras y flwyddyn cynt (Alberto Contador) na'r reidiwr a orffennodd yn drydydd (Levi Leipheimer) gymryd rhan, gan fod y ddau wedi arwyddo cytundeb i rasio dros dim Astana ar gyfer tymor 2008.[2]
Ar 20 Mawrth 2008, datganodd yr ASO y byddai pob tîm ProTour, heblaw am Astana, yn cael eu gwahodd, ynghyd â thri tîm "wildcard": Agritubel, Barloworld, a Team Slipstream-Chipotle (a ail-enwyd yn Team Garmin-Chipotle yn ddiweddarach[3]).
Yr 20 tîm a wahoddwyd oedd:[4]
Canlyniadau
golyguSafleodd
golyguSafle | Reidiwr | Tîm | Amser |
---|---|---|---|
Carlos Sastre | Team CSC Saxo Bank | 87h 52' 52″ | |
2 | Cadel Evans | Silence-Lotto | + 58" |
3 | Bernhard Kohl | Gerolsteiner | + 1' 13" |
4 | Denis Menchov | Rabobank | + 2' 10" |
5 | Christian Vandevelde | Garmin-Chipotle | + 3' 05" |
6 | Fränk Schleck | Team CSC Saxo Bank | + 4' 28" |
7 | Samuel Sánchez | Euskaltel-Euskadi | + 6' 25″ |
8 | Kim Kirchen | Team Columbia | + 6' 55″ |
9 | Alejandro Valverde | Caisse d'Epargne | + 7' 12″ |
10 | Tadej Valjavec | Ag2r-La Mondiale | + 9' 05″ |
Safleoedd y timau
golyguSafle | Tîm | Amser |
---|---|---|
Team CSC Saxo Bank | 263h 29' 57" | |
2 | Ag2r-La Mondiale | + 15' 35" |
3 | Rabobank | + 1h 05' 26" |
4 | Euskaltel-Euskadi | + 1h 16' 26" |
5 | Silence-Lotto | + 1h 17' 15" |
6 | Caisse d'Epargne | + 1h 20' 28" |
7 | Team Columbia | + 1h 23' 00" |
8 | Lampre | + 1h 26' 24" |
9 | Gerolsteiner | + 1h 27' 40" |
10 | Crédit Agricole | + 1h 37' 16" |
Safle | Reidiwr | Tîm | Pwyntiau |
---|---|---|---|
Bernhard Kohl | Gerolsteiner | 128 | |
2 | Carlos Sastre | Team CSC Saxo Bank | 80 |
3 | Fränk Schleck | Team CSC Saxo Bank | 80 |
4 | Thomas Voeckler | Bouygues Télécom | 65 |
5 | Sebastian Lang | Gerolsteiner | 62 |
6 | Stefan Schumacher | Gerolsteiner | 61 |
7 | John-Lee Augustyn | Barloworld | 61 |
8 | Alejandro Valverde | Caisse d'Epargne | 58 |
9 | Rémy Di Gregorio | Française des Jeux | 52 |
10 | Egoi Martinez | Euskaltel-Euskadi | 51 |
Rank | Rider | Team | Points |
---|---|---|---|
Óscar Freire | Rabobank | 270 | |
2 | Thor Hushovd | Crédit Agricole | 220 |
3 | Erik Zabel | Team Milram | 217 |
4 | Leonardo Duque | Cofidis | 181 |
5 | Kim Kirchen | Team Columbia | 155 |
6 | Alejandro Valverde | Caisse d'Epargne | 136 |
7 | Robert Hunter | Barloworld | 131 |
8 | Robbie McEwen | Silence-Lotto | 129 |
9 | Julian Dean | Garmin-Chipotle | 119 |
10 | Gerald Ciolek | Team Columbia | 116 |
Safle | Reidiwr | Tîm | Amser |
---|---|---|---|
Andy Schleck | Team CSC Saxo Bank | 88h 04' 24″ | |
2 | Roman Kreuziger | Liquigas | + 1' 27″ |
3 | Vincenzo Nibali | Liquigas | + 17' 01″ |
4 | Maxime Monfort | Cofidis | + 24' 09″ |
5 | Eduardo Gonzalo | Agritubel | + 1h 08' 34″ |
6 | Thomas Lövkvist | Team Columbia | + 1h 13' 55″ |
7 | John-Lee Augustyn | Barloworld | + 1h 24' 49″ |
8 | Peter Velits | Team Milram | + 1h 38' 17″ |
9 | Rémy Di Gregorio | Française des Jeux | + 1h 38' 22″ |
10 | Luis León Sánchez | Caisse d'Epargne | + 1h 44' 07" |
Arian gwobr
golyguGwobrwywyd cyfanswm o €3.25 miliwn mewn gworau yn ystod y Tour. Derbyniodd pob tîm €51,243 tuag at costau cymryd rhan yn ogystal, a €1,600 ychwanegol ar gyfer pob reidiwr a gwblhaodd y ras, ond ar yr amod fod oleiaf saith o bob tîm yn gwneud hynny.[7][8]
1af | 2il | 3ydd | 4ydd | 5ed | Nodiadau | |
---|---|---|---|---|---|---|
Pob cam | €8,000 | €4,000 | €2,000 | €1,200 | €830 | Gwobrau i lawr i'r 20fed safle (€200). |
Safleodd cyffredinol | €450,000 | €200,000 | €100,000 | €70,000 | €50,000 | Mae pob reidiwr sy'n gorffen yn derbyn oleif €400. Mae'r un sy'n gwisgo'r Crys Melyn yn derbyn €350 pob cam. |
Cystadleuaeth Bwyntiau | €25,000 | €15,000 | €10,000 | €4,000 | €3,500 | Arian gwobr ychwanegol i lawr i'r 8fed safle (€2,000). Mae'r arweinydd ar ddiwedd pob cam yn derbyn €300. |
Sbrintiau canolog | €800 | €450 | €300 | Mae 45 o'r sbrintiau rhain yn ystod y Tour. | ||
Cystadleuaeth brenin y mynyddoedd | €25,000 | €15,000 | €10,000 | €4,000 | €3,500 | Arian gwobr ychwanegol i lawr i'r 8fed safle (€2,000). Mae'r arweinydd ar ddiwedd pob cam yn derbyn €300. |
Allt Hors categorie | €800 | €450 | €300 | Mae 8 allt HC yn ystod y tour, ac mae €5,000 o wobrau ychwanegol ar gyfer y reidwyr cyntaf drost y Tourmalet (cam 10) a'r Galibier (cam 17). | ||
Allt categori 1 | €650 | €400 | €150 | Mae 4 yn ystod y Tour. | ||
Allt categori 2 | €500 | €250 | Mae 5 yn ystod y Tour. | |||
Allt categori 3 | €300 | Mae 14 yn ystod y Tour. | ||||
Allt categori 4 | €200 | Mae 26 yn ystod y Tour. | ||||
Cystadleuaeth y reidwyr ifanc | €20,000 | €15,000 | €10,000 | €5,000 | Pae'r reidiwr ifanc cyntaf i orffen pob diwrnod yn derbyn €500, ac arweinydd cystadleuaeth y reidwyr ifanc yn derbyn €300 ar ôl pob cam. | |
Gwobr y reidiwr mwyaf brwydrol | €20,000 | Gwobrwyir wobr o €2,000 ym mhob cam heblaw y treialau amser. | ||||
Cystadleuaeth tîm | €50,000 | €30,000 | €20,000 | €12,000 | €8,000 | Gwobrwyir €2,800 ym mhob cam, i'r tim sydd gyda'r amser cyflymaf ar gyfer eu tri reidiwr cyntaf i orffen. |
Yn ôl traddodiad, caiff yr holl arian mae'r tîm yn ei ennill ei roi mewn un pot a'i rannu rhwng y reidwyr a'r tîm cefnogi. Team CSC, sef tîm enillydd y Tour, Sastre, a enillodd y cyfanswm mwyaf o arian, gyda thros €600,000. Ni dderbyniodd Saunier Duval eu gwobrau arian wedi i Riccardo Riccò roi sampl positif i brawf cyffuriau.[9]
Tîm | Arian gwobr | |
---|---|---|
1 | Team CSC Saxo Bank | €621,210 |
2 | Silence-Lotto | €233,450 |
3 | Gerolsteiner | €192,370 |
4 | Rabobank | €154,250 |
5 | Team Columbia | €113,450 |
6 | Cofidis | €91,460 |
7 | Garmin-Chipotle | €82,570 |
8 | Ag2r-La Mondiale | €71,060 |
9 | Caisse d'Epargne | €59,510 |
10 | Crédit Agricole | €55,450 |
11 | Euskaltel-Euskadi | €53,130 |
12 | Liquigas | €49,220 |
13 | Française des Jeux | €45,780 |
14 | Team Milram | €35,490 |
15 | Agritubel | €32,540 |
16 | Quick Step | €31,470 |
17 | Bouygues Télécom | €24,900 |
18 | Barloworld | €22,480 |
19 | Lampre | €9,840 |
Reidwyr a dynnodd allan
golyguCafodd 35 reidiwr eu tynnu allan neu eu diarddel.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ History of UCI-Grand Tour disputes. Cycling News.
- ↑ Associated Press (13 Chwefror 2008). Tour de France organizers exclude Astana team; Alberto Contador may not defend title. ESPN.com.
- ↑ Garmin is the new title sponsor of the Slipstream-Chipotle team. VeloNews (18 Mehefin 2008).
- ↑ TOUR 2008 : VINGT ÉQUIPES INVITÉES.
- ↑ Adnabyddwyd gynt fel Team High Road : Columbia Sportswear Announces Sponsorship. Team Columbia & High Road Sports, Inc (15 Mehefin 2008).
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 Official Tour de France standing
- ↑ Rules and Stakes. Le Tour.fr.
- ↑ 2008 Rules and Stakes. Le Tour.fr.
- ↑ VeloNews 2008 Tour de France information.
- ↑ Piepoli of Italy wins 10th stage of Tour[dolen farw]
- ↑ www.cyclingnews.com - the world centre of cycling
Dolenni Allananol
golygu- Gwefan swyddogol Tour de France
- (Iseldireg) (Saesneg) (Ffrangeg) Cyflwyniad o gamau Tour de France 2008
- Tour de France 2008 ar Google Earth Archifwyd 2008-07-31 yn y Peiriant Wayback
- RoadCycling.com Archifwyd 2018-02-01 yn y Peiriant Wayback Newyddion, canlyniadau, lluniau a dyddiaduron y reidwyr.
- Cyclingfans.com Clipiau fideo a sain.
- Le dico du Tour / Le Tour de France de 1947 à 2008 (Ffrangeg)
- 2008 Tour de France: Stage by stage Mapiau Google rhyngweithiol
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn | Crys Gwyrdd | Crys Dot Polca | Crys Gwyn | Gwobr Brwydrol