Pêl-droediwr o Awstralia ydy Tim Cahill (ganwyd Timothy Filiga Cahill, 6 Rhagfyr 1979) sy'n chwarae i'r Shanghai Shenhua yng Nghynghrair Chinese Super League yn y Tsieina ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia. Cyn symud i Efrog Newydd roedd yn chwarae ei bêl-droed yn Lloegr i Millwall ac Everton.

Tim Cahill
GanwydTimothy Filiga Cahill Edit this on Wikidata
6 Rhagfyr 1979 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
Man preswylCatar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Tempe High School
  • Kingsgrove North High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau86 cilogram Edit this on Wikidata
PlantKyah Cahill, Shae Cahill Edit this on Wikidata
Gwobr/auSwyddogion Urdd Awstralia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.timcahill.com Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auMillwall F.C., New York Red Bulls, Everton F.C., Shanghai Shenhua F.C., Zhejiang Professional F.C., Australia national under-23 soccer team, Tîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia, Samoa men's national football team Edit this on Wikidata
Saflecanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonSamoa, Awstralia Edit this on Wikidata

Ganed Cahill yn Sydney, Awstralia i dad Seisnig o dras Wyddelig a mam o Samoa[1][2].

O'r herwydd, roedd yn gymwys i chwarae pêl-droed i Awstralia, Lloegr, Samoa a Gweriniaeth Iwerddon a phan yn 14-mlwydd-oed cafodd ei alw i garfan dan 20 Samoa ar gyfer Pencampwriaeth dan 20 Oceania[3]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd mewn colled 3-0 yn erbyn Seland Newydd a chwaraeodd ei ail gêm yn y golled 3-0 erbyn Fanwatw[4].

Yn 2002 cafodd Cahill gynnig i ymuno â charfan Gweriniaeth Iwerddon ond oherwydd ei ddwy gêm i dîm dan 20 Samoa, nid oedd yn gymwys, ond newidiwyd rheolau cymhwyster FIFA yn 2004 a penderfynodd Cahill ddewis cynrychioli Awstralia[5].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Socceroos mewn gêm gyfeillgar yn erbyn De Affrica ar 30 Mawrth 2004 yn Loftus Road, Llundain[6] a bellach, Cahill yw prif sgoriwr yn holl hanes pêl-droed Awstralia gyda 31 gôl ar ôl iddo rwydo dwywaith mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ecwador ar 5 Mawrth 2014[7].

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Shooting star: Tim Cahill". The Sydney Morning Herald. 2009-04-02.
  2. Collins, Pádraig (2010-06-10). "Ireland's loss is Socceroos' gain with Cahill". Irish Echo. Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-27. Cyrchwyd 2014-06-19.
  3. "Profiles — Tim Cahill". Football News. 2006-03-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 2014-06-19.
  4. Curtis, Adrian (2002-02-14). "I will take FIFA to court, vows Cahill". London Standard. ochr yn ochr â'i frodyr Sean, oedd yn golwr, a Chris, aeth ymlaen i fod yn gapten ar Samoa
  5. "World Cup 2014: The secrets behind the players". 2014-05-31. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. BBC Sport match report Australia 1–0 South Africa "Australia 1-0 South Africa" Check |url= value (help). 2004-03-30.
  7. "Tim Cahill becomes Australia's all-time leading goalscorer after early header against Ecuador". 2014-03-6. Unknown parameter |published= ignored (help); Check date values in: |date= (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.