Llwyneliddon

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref a phlwyf yn nwyrain Bro Morgannwg yw Llwyneliddon (Saesneg: St. Lythans). Ceir y ffurf Llaneliddon hefyd weithiau, ond Llwyneliddon yw'r enw Cymraeg swyddogol.

Llwyneliddon
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4483°N 3.2825°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Gorwedd Llwyneliddon rhwng pentrefi Gwenfô a Sain Nicolas, ychydig dros 4 milltir i'r gorllewin o ganol dinas Caerdydd.

Cromlech Llech y Filiast ger Tinkinswood.

Cysylltir y plwyf â Sant Eliddon (amrywiadau, Elidon ac Elidan), ond cysegrir yr eglwys i Sant Bleiddan (amrywiad, Bleiddian). Mewn canlyniad arferid galw'r pentref yn Llanfleiddan Fach i wahaniaethu rhyngddo a Llanfleiddan Fawr ger Y Bont-faen.

Ar gyrion y pentref, ger plasdy'r Dyffryn, ceir cromlech nodedig o'r enw Llech y Filiast sy'n dwyn cymhariaeth â'r enghraifft enwog yn Tinkinswood gerllaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]

Cyfeiriadau

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.