Tinwen y garn
rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Tinwen y Garn)
Tinwen y garn | |
---|---|
Ceiliog yn Llydaw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Muscicapidae |
Genws: | Oenanthe |
Rhywogaeth: | O. oenanthe |
Enw deuenwol | |
Oenanthe oenanthe (Linnaeus, 1758) |
Aderyn bychan o deulu'r Muscicapidae yw Tinwen y garn (ll. tinwennod; enw Lladin:Oenanthe oenanthe); yn flaenorol ystyrid ei fod yn aelod o deulu'r bronfreithod, y Turdidae. Mae'n rywogaeth cyffredin iawn yn Ewrop a rhannau o Asia. Mae'n 14½–16 cm o hyd, fymryn yn fwy na Robin Goch. Daw'r enw o'r darn gwyn uwchben y gynffon, rhywbeth sy'n amlwg iawn wrth i'r aderyn hedfan i ffwrdd.
Mae Tinwen y garn yn aderyn mudol, yn symud tua'r de i Affrica yn y gaeaf. Ar dir agored y mae'n nythu, yn enwedig lle mae cerrig neu greigiau. Yng Nghymru, mae'n aderyn nodweddiadol o'r ucheldiroedd; er enghraifft mae'n nythu bron hyd at gopaon mynyddoedd uchaf Eryri.
Digwyddiadau
golygu- Un peth a fu’n nodwedd o wanwyn 2013 oedd y fflyd o dinwennod y garn a gyrhaeddodd gogledd Cymru ddiwedd Mawrth ac a arhosodd yn y caeau gydol Ebrill a hyd yn oed hanner cyntaf Mai (cyn un ai ymsefydlu yma a pharu neu symud yn eu blaenau.)[1]
Aelodau eraill o'r un teulu
golyguRhestr Wicidata:
label | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Adeinfyr torwyn | Sholicola major | |
Bronlas | Luscinia svecica | |
Eos | Luscinia megarhynchos | |
Eos fraith | Luscinia luscinia | |
Luscinia brunnea | Luscinia brunnea | |
Luscinia calliope | Luscinia calliope | |
Luscinia cyane | Luscinia cyane | |
Luscinia cyanura | Luscinia cyanura | |
Luscinia obscura | Luscinia obscura | |
Luscinia pectardens | Luscinia pectardens | |
Luscinia pectoralis | Luscinia pectoralis | |
Luscinia phoenicuroides | Luscinia phoenicuroides | |
Luscinia ruficeps | Luscinia ruficeps | |
Robin Swinhoe | Larvivora sibilans | |
Sholicola albiventris | Sholicola albiventris |
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.