Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
Mae Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig yn diriogaeth dramor y Deyrnas Unedig yn yr Antarctig.
Rothera, Ynys Adelaide | |
Math | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, territorial claims in Antarctica |
---|---|
Prifddinas | Rothera Research Station |
Sefydlwyd | |
Anthem | God Save the King |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 1,709,400 km² |
Cyfesurynnau | 75°S 50°W |
Arian | punt sterling |
Cefndir
golyguMae Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig (BAT) yn sector o Antarctica sy'n cael ei hawlio gan y Deyrnas Unedig fel un o'r 14 Tiriogaeth Dramor Brydeinig[1]. Dyma'r diriogaeth fwyaf o faint o bell ffordd. Mae'n cynnwys y rhanbarth i'r de o ledred 60 ° S a rhwng hydredau 20 ° W a 80 ° W, gan ffurfio siâp lletem sy'n ymestyn i Begwn y De, sy'n gorgyffwrdd â'r hawliadau Antarctig yr Ariannin (Antarctica Ariannin) a Chile (Tiriogaeth Antarctig Chile).
Ffurfiwyd y Diriogaeth ar 3 Mawrth 1962, er bod hawliad y DU i'r rhan hon o'r Antarctig yn dyddio'n ôl i lythyrau patent dyddiedig 1908 a 1917.
Mae'r ardal a weinyddir gan y diriogaeth bellach yn cynnwys tri rhanbarth a oedd, cyn 1962, yn cael eu gweinyddu gan fel dibyniaethau Prydeinig unigol sef: Ynysoedd y Falkland; Graham Land, Ynysoedd Erch y De (South Orkney Islands) ac Ynysoedd Shetland y De (South Shetland Islands).
Mae hawliad y Deyrnas Unedig i'r rhanbarth wedi'i ohirio ers i'r Cytundeb Antarctig ddod i rym ym 1961. Mae erthygl 4 y cytundeb yn dweud "Ni fydd unrhyw weithredoedd na gweithgareddau sy'n digwydd tra fo'r Cytundeb presennol mewn grym yn ffurfio sail ar gyfer pennu, cefnogi neu wrthod hawliad i sofraniaeth diriogaethol yn Antarctica. Ni chaiff hawliad newydd, neu ehangiad hawliad presennol, i sofraniaeth diriogaethol yn cael ei honni tra fo'r Cytundeb presennol mewn grym Nid yw'r mwyafrif o wledydd yn cydnabod hawliadau tiriogaethol yn Antarctica.[2] Mae'r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau'r cytundeb.
Yn 2012, enwyd rhan ddeheuol y diriogaeth yn Queen Elizabeth Land er anrhydedd i'r Frenhines Elisabeth II.[3]
Yr unig bobl yn y diriogaeth yw staff ymchwil a swyddogion wrth gefn a gynhelir gan Arolwg Antarctig Prydain a sefydliadau tebyg, a gorsafoedd yr Ariannin, Chile a gwledydd eraill. Nid oes trigolion brodorol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hendry, Ian; Dickson, Susan (2011). British Overseas Territories Law. Oxford: Hart Publishing. p. 299. ISBN 9781849460194.
- ↑ The Antarctic Treaty Archifwyd 2019-05-19 yn y Peiriant Wayback, National Science Foundation, Office of Polar Programs
- ↑ "UK to rename part of Antarctica Queen Elizabeth Land". BBC News. BBC. 18 December 2012. Cyrchwyd 3 Medi 2018.