Titw cynffonhir
Titw cynffonhir Aegithalos caudatus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Aegithalidae |
Genws: | Aegithalos[*] |
Rhywogaeth: | Aegithalos caudatus |
Enw deuenwol | |
Aegithalos caudatus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Titw cynffonhir (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: titwod cynffonhir) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Aegithalos caudatus; yr enw Saesneg arno yw Long-tailed tit. Mae'n perthyn i deulu'r Titwod cynffonhir (Lladin: Aegithalidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. caudatus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia. Fel rheol mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yng ngorllewin Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn. Gellir ei adnabod yn hawdd, yn enwedig o'r gynffon hir - mae'r aderyn tua 13–15 cm o hyd ond mae'r gynffon yn 7–9 cm o hyd a'r corff dim ond tua 6 cm. Mae'n ddu a brown ar y cefn, coch neu binc ar yr ochrau a gwyn ar y bol, gyda chap gwyn ar y pen. Mae'r is-rywogaeth yng ngogledd Ewrop, (A. c. caudatus), ychydig yn wahanol, gyda'r pen yn wyn i gyd a'r ochrau'n wyn.
Fel rheol gellir ei weld mewn heidiau o rhyw 6 i 15 aderyn, weithiau fwy, yn symud yn ddi-baid o un goeden i'r llall. Adeiledir y nyth mewn coeden neu lwyd gan ddefnyddio gwe pryf copyn i ddal y nyth at ei gilydd. Mae'n dodwy rhwng 6 a 12 wy.
Mae'r Titw Cynffon-hir yn aderyn cyffredin yng Nghymru. Gall ei niferoedd ddisgyn yn sylweddol os ceir gaeaf anarferol o galed, ond buan yr adferir ei nifer.
Teulu
golyguMae'r titw cynffonhir yn perthyn i deulu'r Titwod cynffonhir (Lladin: Aegithalidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Titw bochwyn | Aegithalos leucogenys | |
Titw clustddu | Psaltriparus melanotis | |
Titw cynffonhir | Aegithalos caudatus | |
Titw cynffonhir Blyth | Aegithalos iouschistos | |
Titw cynffonhir du | Aegithalos fuliginosus | |
Titw pengoch | Aegithalos concinnus | |
Titw-delor Severtzov | Leptopoecile sophiae | |
Titw-delor cribog | Leptopoecile elegans | |
Titw’r prysgwydd | Psaltriparus minimus |
Enwau
golyguYswigw gynffon-hir; yswigw hirgwt; lleian gynffon-hir; gwas y dryw [gweler blue tit]; yswelw; pela gynffon-hir; yswidw hir ei gwt; y penloyn gynffonig; glas gynffon hir; yswedw; pwd; yswidw'r botel*; shibigw; sigl-di-gwt [gweler siglen fraith]; aderyn reis pwdin; Aegithalos caudatus; Long-tailed Tit[3]
- All birds except Bottle Tit* are 10-14 days later this year than last...[4]
Ecoleg
golyguMae peth tystiolaeth bod y titw hwn yn newid ei ymddygiad ac yn symyd fwyfwy i fwydo mewn gerddi, yn arbennig ar beli-saim. Mae dioddef yn arbennig o ddrwg mewn gaeafau caled.[5]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Rhestr [1] Rhagor o Enwau Adar: Dewi E Lewis a Chymdeithas Edward Llwyd
- ↑ Dyddiadur di-enw (?Y Parch. Lorrimer Thomas mae'n debyg) o Tywyn, Abergele 1922-1942; 5 Mai 1927
- ↑ Bwletin Llên Natur 146 (tud. 2)