Tiziano Vecellio
Arlunydd o'r Eidal oedd Tiziano Vecellio (Almaeneg: Tizian, Ffrangeg: Titien, Saesneg: Titian; tua 1487 – 27 Awst 1576). Ystyrir ef yn un o arlunwyr pwysicaf y Dadeni.
Tiziano Vecellio | |
---|---|
Ganwyd | c. 1490 Pieve di Cadore |
Bu farw | 27 Awst 1576 Fenis |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fenis |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, artist |
Swydd | arlunydd llys |
Adnabyddus am | Merch â Drych, Coroniad Crist â Drain, Y Forwyn â'r Gwningen, Gwener Urbino, Portread o Siarl V ar Gefn Ceffyl, Pab Pawl III a'i Wyrion, Tarquinius a Lucretia |
Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, noethlun, peintio hanesyddol, portread |
Mudiad | ysgol Fenis, yr Uchel Ddadeni |
Tad | Gregorio Vecellio |
Priod | Cecilia Soldano |
Plant | Orazio Vecellio, Tizianello, Lavinia Vecellio |
Llinach | teulu Vecellio |
Gwobr/au | Urdd y Sbardyn Aur |
llofnod | |
Ganed Titian yn Pieve di Cadore, pentref yn y Dolomitau tua 190 km i'r gogledd o Fenis. Bu'n ddisgybl i Gentile Bellini ac yna i'w frawd, Giovanni. Dylanwad pwysig arall arno oedd Giorgione (tua 1477 – 1510).
Tua 1508, roedd Giorgione a Titian yn gyfrifol am waith ffresco ar y Fondaco dei Tedeschi yn Fenis. Yn 1511, arluniodd Titian waith ffresco yn y Scuola del Santo yn Padova. Yn 1516, daeth yn arlunydd swyddogol Gweriniaeth Fenis.
Yn 1532, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ef yn uchelwr. Yn y blynyddoedd 1530–40 bu'n gweithio yn Urbino. Yn 1545–46 bu yn Rhufain, ac yn 1548–1551 yn llys yr ymerawdwr yn Augsburg. Wedi marwolaeth Siarl, bu'n gweithio i Philip II, brenin Sbaen. Claddwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari, Fenis.
Gweithiau
golygu- Fenws Urbino a Flora yn yr Uffizi yn Fflorens
- Esgyniad Mair (Titian) a Madonna Pesaro yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari yn Fenis
- Portread o Clarissa Strozzi yn y Gemäldegalerie, Berlin
Oriel
golygu-
Bacchws ac Ariadne, 1520–3, Oriel Genedlaethol, Llundain
-
Marwolaeth Actaeon, 1559–75, Oriel Genedlaethol, Llundain
-
Blingo Marsyas, c. 1570–6
-
Violante, c. 1515
-
Portread o Andrea Gritti, Doge Fenis o 1523 i 1538
-
Portread o Federico II Gonzaga, c. 1525
-
Portread o Felipe II, c. 1554
-
Crist (rhan), 1553, Prado, Madrid
-
Crefydd a achubwyd gan Sbaen, 1572–5, Amgueddfa Prado, Madrid
-
Noli me tangere, 1514, Oriel Genedlaethol, Llundain