Tlws Adran
Tlws Adran (Saesneg: Adran Trophy) yw'r enw ar gystadleuaeth gwpan pêl-droed flynyddol aelodau cynghreiriau menywod Cymru. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf gyntaf yn 2014, pan y'i gelwid yn Cwpan Uwch Gynghrair Merched Cymru ('Welsh Premier League Cup').[1] Yn 2021 cafodd ei ailfrandio i 'Tlws Adran'.
Dechrau/Sefydlu | 2014 |
---|---|
Rhanbarth | Cymru |
Gwefan | https://faw.cymru/adran-leagues/adran-trophy/ |
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei rhedeg gyda 24 o glybiau’n cymryd rhan, gan gynnwys holl aelodau cyfrediol cynghreiriau: yr Uwch Gynghrair genedlaethol sef yr (Adran Premier), a hefyd y ddau adran rhanbarthol - Adran Gogledd ac Adran De. Ceir hefyd y posibilrwydd o geisiadau cerdyn gwyllt ychwanegol i lenwi cyfanswm y clybiau i 24. Caiff ei redeg ar ffurf twrnamaint 'curo a thrwyddo' lle bydd enillydd cymal un gêm yn mynd drwyodd i'r cymal nesa.
Noddwyr
golygu- 2016 - 2021 - Orchard sy'n gwmni cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd, oedd noddwyr y Tlws a noddwyr cyntaf Adran Premier.[2][3]
- 2021 - Genero, noddwyr y Tlws o 2021 ymlaen oedd cwmni trefnu digwyddiadau Genero. Nhw hefyd oedd yn noddi Adran Premier a Cwpan Pêl-droed Merched Cymru.[4]
Enillwyr
golyguC.P.D. Merched Met. Caerdydd bu'n dominyddu'r gystadleuaeth yn y blynyddoedd cyntaf. Enillodd C.P.D. Merched Dinas Caerdydd y Tlws tair mlynedd o'r bron yn 2022, 2023, a 2024. Yn 2024, gydag ennill y Tlws, Cwpan Pêl-droed Merched Cymru ac Adran Premier bu i C.P.D. Merched Dinas Caerdydd ennill y triphlig. Dyma'r tro gyntaf i un tîm ennill y dri brif wobr safon uchaf pêl-droed menywod Cymru. Bu i ferched Caerdydd guro C.P.D. Merched Dinas Abertawe 5 - 1 ar Stadiwm SDM Glass ym Penybont-ar-Ogwr.[5]
Tymor | Enillydd | Refs |
---|---|---|
2013–14 | C.P.D. Merched Met. Caerdydd | [6] |
2014–15 | PILCS | [7] |
2015–16 | C.P.D. Merched Dinas Abertawe | [8] |
2016–17 | C.P.D. Merched Met Caerdydd | [9] |
2017–18 | C.P.D. Merched Cyncoed | [10] |
2018–19 | C.P.D. Merched Met Caerdydd | [11] |
2019–20 | Canslwyd oherydd Y Gofid Mawr - Covid-19 | [12] |
2020–21 | C.P.D. Merched Dinas Abertawe | [13] |
2021–22 | C.P.D. Merched Met Caerdydd | [14] |
2022–23 | C.P.D. Merched Met Caerdydd | [15] |
2023–24 | C.P.D. Merched Dinas Caerdydd | [16] |
Gweler hefyd
golygu- Adran Premier - uwch gynghrair genedlaethol pêl-droed merched Cymru
- Cwpan Pêl-droed Merched Cymru
- Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cyncoed win Welsh Premier League Cup". Shekicks. 28 Mawrth 2018.
- ↑ "Orchard backs Welsh Premier Women's League". Wales 247. Text "date-10 Medi 2019" ignored (help)
- ↑ "Cyncoed win Welsh Premier League Cup". Shekicks. 28 Mawrth 2018.
- ↑ "Genero Creative Group: Working with FAW for a new defining era for football in Wales". Gwefan Genero Group. 2 Medi 2021.
- ↑ "Cardiff City react to "amazing" Genero Adran Trophy win". Gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru. 14 Ebrill 2024.
- ↑ "She Kicks - News Section: Cardiff Met Win Welsh Premier Cup". www.shekicks.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ebrill 2014. Cyrchwyd 5 Mai 2017.
- ↑ Houldsworth, Andy; Harris, Jon. "PILCS Come From Behind to Claim League Cup". www.welshpremier.co.uk. Cyrchwyd 5 Mai 2017.[dolen farw]
- ↑ "She Kicks - News Section: Swans Exact Welsh Premier Cup Final Revenge". www.shekicks.net. Cyrchwyd 5 Mai 2017.
- ↑ "She Kicks - News Section: Cardiff Met Win Welsh Premier League Cup". shekicks.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Chwefror 2017. Cyrchwyd 5 Mai 2017.
- ↑ "She Kicks - News Section: Cyncoed lift the League Cup for first time". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mehefin 2018. Cyrchwyd 22 Ebrill 2018.
- ↑ "Cardiff Met beat Swansea Ladies 3-1 to win Welsh Premier Women's Cup". BBC Sport. 5 Ebrill 2019. Cyrchwyd 14 Awst 2019.
- ↑ The 2019–20 WPWL Cup Final (Cardiff Met.–Swansea City) was cancelled, due to the COVID-19 pandemic.
"FAW / 2019/20 FAW Cup Competitions Terminated". www.faw.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Medi 2020. - ↑ "#WPWLCup: Swansea City Ladies come from behind to lift trophy". She Kicks. 27 Mai 2021.
- ↑ "Cardiff Met beat Cardiff City to win Genero Adran Trophy". BBC Sport. 27 Mawrth 2022.
- ↑ "Archers beat Bluebirds to retain Adran Trophy" – drwy www.bbc.com.
- ↑ "Genero Adran Trophy 23/24 Knockout". www.faw.cymru. 14 Ebrill 2024.