Pen-y-bont ar Ogwr
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Pen-y-bont ar Ogwr[1] (Saesneg: Bridgend).[2] Mae ganddi oddeutu 40,000 o bobol.
Math | tref, tref farchnad |
---|---|
Poblogaeth | 49,404 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5072°N 3.5784°W |
Cod OS | SS905805 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Elmore (Llafur) |
- Am leoedd eraill o'r enw "Penybont" neu "Pen-y-bont", gweler Pen-y-bont (gwahaniaethu).
Tan yr 20g, tref marchnad oedd hi yn bennaf. Mae hi bellach yn dref ddiwydiannol oherwydd datblygu ystadau diwydiannol ger yr M4 sydd wedi denu cwmnïau megis Sony a Ford i'r ardal. Mae Pen-y-bont yn gartref hefyd i bencadlys Heddlu De Cymru. Adeiladwyd carchar preifat (Carchar Parc Ei Mawrhydi) yn niwedd y 1990au ar safle hen ysbyty seiciatreg ar gyrion y dref uwchben pentref Coety.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Elmore (Llafur).[4]
Lleolir Carchar y Parc - carchar masnachol i ddynion a throseddwyr ifainc, yn agos i'r dref.
Ardaloedd
golygu- Pendre
- Llidiart (Saesneg: Litchard)
- Hendre (Saesneg: Nolton)
- Castell Newydd (Saesneg: Newcastle)
- Cefn Glas
- Bryntirion
- Bragle (Saesneg: Brackla)
- Hen Gastell (Saesneg: Oldcastle)
- Melin Wyllt (Saesneg: Wildmill)
- Chwarela (Saesneg: Quarella)
Afonydd
golyguMae Afon Ogwr yn llifo trwy'r dref, gyda'r Nant Morfa yn ei chyfarfod ger Meysydd y Bragdy. Mae'r Afon Ewenni yn llifo ar gyrion y dref yn Nhredŵr i gyfarfod yr Ogwr ger Castell Ogwr ar ben yr aber.
Cysylltiadau ffyrdd a rheilffordd
golyguMae Pen-y-bont yn agos i gyffyrdd 35 a 36 traffordd yr M4, hanner ffordd rhwng dinas Abertawe a dinas Caerdydd.
Mae gan Pen-y-bont orsaf rheilffordd ar lein y Great Western, gyda gwasanaethau cyflym i ddinas Llundain ac Abertawe. Mae yna orsaf arall ym Melin Wyllt ar lein Maesteg. Mae gwasanaethau lleol yn rhedeg i Gaerdydd a Gorllewin Lloegr ar y brif lein a lein Bro Morgannwg. I'r gorllewin mae gwasanaethau lleol i Abertawe a Gorllewin Cymru. Hefyd mae gwasanaethau lleol i Faesteg. Gweithredir y gwasanaethau lleol gan Trafnidiaeth Cymru, a'r gwasanaethau cyflym gan Great Western Railway.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Castell Coety
- Castell Newydd
- Eglwys Sant Illtyd
- Island Farm
- Yr Hen Bont
Enwogion
golygu- Huw Edwards, cyflwynwr newyddion y BBC
- David Emanuel (cynllunydd ffasiwn)
- Gavin Henson (chwaraewr rygbi)
- Robert Howley (chwaraewr rygbi)
- Amanda Levete (pensaer)
- Gareth Llewellyn (chwaraewr rygbi)
- JPR Williams (chwaraewr rygbi)
- Michael Williams, Barwn Baglan (1949 – 2017), diplomydd
Ysgolion
golygu- Ysgol Gyfun Brynteg
- Ysgol Gyfun Bryntirion
- Ysgol Gyfun Pencoed
- Ysgol Gyfun Ynysawdre
- Ysgol Gyfun Ogwr
- Ysgol Gynradd Penybont
- Ysgol Gynradd yr Hen Gastell
- Ysgol Gynradd Bragle
- Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
- Ysgol Gynradd Tremaen
- Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
- Ysgol Gynradd Llidiart
- Ysgol Plant Bach Bryntirion
- Ysgol Plant Iau Llangewydd
- Ysgol Gynradd Brynmenyn
- Ysgol Gynradd Ffaldau
- Ysgol Gynradd Betws
Hamdden
golyguCeir Coetir Ysbryd Llynfi ar gyrion tref Maesteg sy'n ardal o goedwig ac hamdden gyda llwybrau cerdded, rhedeg a seiclo. Planwyd y coetir ar safle hen bwll glo Coegnant a Golchfa Maesteg.
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1948. Am wybodaeth bellach gweler:
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 ym Mhencoed.
Oriel
golygu-
Eglwys Sant Illtyd, Pen-y-bont ar Ogwr
-
Cae rygbi'r dref
-
Ysbyty St Ioan; adeilad o'r 16g
Gefeilldrefi
golyguGweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 25 Hydref 2021
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Maesteg · Pen-coed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pontycymer · Porthcawl
Pentrefi
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bracla · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefncribwr · Cwmogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Gogledd Corneli · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynyddcynffig · Nant-y-moel · Notais · Pen-y-fai · Y Pîl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre