C.P.D. Merched Dinas Abertawe

clwb pêl-droed Merched Dinas Abertawe

Mae Clwb Pêl-droed Merched Dinas Abertawe (Swansea City Ladies Football Club) yn glwb pêl-droed merched wedi'i leoli yn Abertawe, ar hyn o bryd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru a Chynghrair Pêl-droed Merched De Cymru. Coronwyd y merched yn bencampwyr yn ddiweddar ar ôl i dymor 2019-20 gael ei dorri’n fyr oherwydd Covid-19.[1]

Swansea City
Enw llawnC.P.D. Merched Dinas Abertawe
LlysenwauY Swans, Yr Elyrch
Sefydlwyd2002
MaesAcademi Chwaraeon Llandarcy
Castell Nedd
(sy'n dal: 2,000)
RheolwrIan Owen
CynghrairUwch Gynghrair Merched Cymru
2023-242
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Hanes golygu

Wedi'i ffurfio yn 2002, roedd y tîm yn aelodau o Gynghrair gyntaf Cynghrair Merched Cymru yn 2009/10 a daethant ar frig Cynhadledd y De, gan ennill pob un o'u chwe gêm.

Sefydlodd hyn gyfarfod ag enillwyr y Gogledd, C.P.D. Merched Tref Caernarfon, gyda’r enillydd yn cipio’r teitl ac yn dod yn gynrychiolwyr Cymru yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.

Fe guron nhw’r Canaries 4–0 yn Hwlffordd i gymhwyso i Ewrop am y tro cyntaf.[2] Am y tro cyntaf cymhwysodd Abertawe i gystadlaethau UEFA yn 2010 ar ôl ennill Uwch Gynghrair Cymru. Gan nad yw Cymru yn y cynghreiriau gorau yn ôl cyfernod menywod UEFA, bu’n rhaid i’r tîm fynd trwy gam cymhwyso Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA. Tynnwyd Dinas Abertawe allan yng Ngrŵp 5 a'u paru â ŽNK Krka (Slofenia) - a gynhaliodd y grŵp bach - hadau uchaf CF Bardolino Verona (yr Eidal) a FC Baia Zugdidi (Georgia).[3] Llwyddodd Abertawe i sicrhau un fuddugoliaeth yn ei grŵp, gan guro Baia Zugdidi 2-1 a daeth y grŵp i ben ar le 3 o 4, gan fethu â symud ymlaen i'r camau taro allan.

Cynhwyswyd C.P.D.M. Dinas Abertawe yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[4]

  • 2010-11 - Amddiffyn eu teitl yn 2011 eto yn erbyn Caernarfon gyda buddugoliaeth derfynol 3-1, felly byddent yn cymryd rhan yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn 2011–12.
  • 2015 - 19 Ebrill 2015 Curodd Abertawe Merched Dinas Caerdydd 4–2 yng Nghwpan Merched CBDC.
  • 2016 - Iau 28 Ebrill 2016 curodd Abertawe dîm PILCS yng Nghwpan Cynghrair Merched Premier Cymru 4–0.
  • 2016-2017 - Ennill Uwch Gynghrair Merched Cymru er iddynt gollu nhw gêm gyntaf y tymor mewn gornest wefreiddiol 5–4 gartref i’r Y Fenni. Aethant ymlaen wedyn i aros yn ddiguro y tymor cyfan, gan ennill y gynghrair yn gyffyrddus, a choroni pencampwyr ar ôl buddugoliaeth o 4–0 yn erbyn Cyncoed. Gan gwyso i Ewrop aeth y merched i Cluj, Rwmania, lle buont yn chwarae Hibernian, Olimpia Cluj a Zhytlobud-2.
  • 2017-18 - Ennill Cwpan Pêl-droed Merched Cymru Gan ddychwelyd adref ar ôl Cynghrair y Pencampwyr, aeth y merched ymlaen i sicrhau ail yn y gynghrair ar ôl ymgyrch galed. Fe wnaethant ennill Cwpan CBDC, 2-1 gyda goliau yn dod gan Jodie Passmore a Katy Hosford i guro C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dod â chwpan CBDC adref i'r Stadiwm Liberty.

Darlledu Gêm Fyw golygu

Ar brynhawn ddydd Sul 27 Medi 2020, darlledwyd y gêm fyw gyntaf erioed o'r Gynghrair gan raglen Sgorio ar S4C.[5] C.P.D. Merched Dinas Abertawe bu'n fuddugol 0-3 dros C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd.[6] gyda Chloe Chivers yn 'Seren y Gêm'.[7]

Roedd Abertawe hefyd yn rhan o ddarllediad fyw gyntaf yr Genero Adran Premier apan chwaraeodd Met.Caerdydd yn erbyn CP.D.M. Dinas Abertawe o Stadiwm Cyncoed. Darlledwyd y gêm yn fyw ar-lein ar Youtube a Facebook Sgorio.[8] Abertawe enillodd 1-2.[9] Abertawe enillodd y gêm hanesyddol yma, 1-2 gyda goliau i Abertawe gan Stacey John-Davis a Shaunna Jenkins i'r Met.[10]

Anrhydeddau golygu

  • Uwch Gynghrair Merched Cymru:
    • Pencampwyr (4): 2009–10, 2010–11, 2016–17, 2019-20[11]
    • Ail: 2014–15,[12] 2015–16,[13] 2017–18,[14] 2018–19[15]
  • Cwpan Pêl-droed Merched Cymru:
  • Cwpan Uwch Gynghrair Merched Cymru:
  • Cynghrair Bêl-droed Merched De Cymru
    • Pencampwyr: 2006–07, 2007–08, 2008–09, 2009–10, 2011–12
  • Cwpan Cynghrair Merched De Cymru (South Wales Women's League Cup)
    • Pencampwyr: 2007, 2008

Record yn Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA golygu

Crynodeb golygu

Chwarae Ennill Cyfartal Colli GF GA Tymor ddiwethaf chwaraewyd
9 2 0 7 6 39 2017–18

Fesul Tymor golygu

Tymor Rownd Gwrthwynebwyr Cartref Oddi Cartref Agregad
Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2010–11 Rownd Rhagbrofol   A.S.D. AGSM Verona Calcio Femminile 0–7[23] 3rd of 4[24]
  ŽNK Krka 0–4[25]
  Baia Zugdidi 2–1[26]
Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2011–12 Rownd Rhagbrofol   Lehenda-ShVSM 0–2[27] 3rd of 4[28]
  Apollon Limassol 0–8[29]
  FC Progrès Niederkorn 4–0[30]
Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2017–18 Rownd Rhagbrofol   Hibernian 0–5[31] 4th of 4[32]
  FCU Olimpia Cluj 0–3[33]
  Zhytlobud-2 Kharkiv 0–9[34]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://twitter.com/SwansOfficial/status/1272948302737260544
  2. "Ladies book European place". Swansea City A.F.C. 10 Mai 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 25 Mai 2010.
  3. "Swans Ladies are Slovenia bound". Swansea City A.F.C. 22 Mehefin 2010. Cyrchwyd 22 Mehefin 2010.[dolen marw]
  4. https://www.bbc.co.uk/sport/football/58221934
  5. https://twitter.com/sgorio/status/1310258976681078786
  6. https://twitter.com/sgorio/status/1310256519485763589
  7. https://twitter.com/sgorio/status/1310262357067792384
  8. https://www.youtube.com/watch?v=gZQz9u852Jo
  9. https://twitter.com/sgorio/status/1434566396302741507
  10. https://www.swanseacity.com/news/report-cardiff-met-ladies-1-swansea-city-ladies-2
  11. "Net draw hands Swansea Welsh title". shekicks.net. 17 Ebrill 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ebrill 2017. Cyrchwyd 19 Ebrill 2017.
  12. "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  13. "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  14. "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Medi 2019. Cyrchwyd 30 Awst 2020.
  15. "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  16. "WOMEN'S FAW CUP: CARDIFF CITY 2-4 SWANSEA CITY". 25 Ebrill 2015. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  17. "FAW / Swansea come back to beat Cardiff in FAW Women's Cup Final". www.faw.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  18. "Cardiff Met win FAW Women's Welsh Cup Final 2014". 15 Ebrill 2014. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  19. "FAW Women's Cup final: Swans Ladies 2-2 Cardiff Met Ladies (4-5 on penalties)". 9 Ebrill 2017. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  20. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2017. Cyrchwyd 12 Chwefror 2017.CS1 maint: archived copy as title (link)
  21. "PILCS Come From Behind to Claim League Cup - Welsh Premier League". www.wpl.cymru. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  22. "Season in Review: Swans Ladies | Swansea". www.swanseacity.com. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2019.
  23. "Women's Soccer Scene". www.womenssoccerscene.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2020. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  24. "Summary - UEFA Women's Champions League - Europe - Results, fixtures, tables and news - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  25. "Swansea City vs. Krka - 7 August 2010 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  26. "Baia vs. Swansea City - 10 August 2010 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  27. "Legenda vs. Swansea City - 11 August 2011 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  28. "Summary - UEFA Women's Champions League - Europe - Results, fixtures, tables and news - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  29. "Swansea City vs. Apollon Limassol - 13 August 2011 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  30. "Progrès Niederkorn vs. Swansea City - 16 August 2011 - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  31. "Hibernian-Swansea - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  32. "Summary - UEFA Women's Champions League - Europe - Results, fixtures, tables and news - Soccerway". syndication.soccerway.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2019. Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  33. "Olimpia Cluj-Swansea - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  34. "Swansea-Kharkiv - UEFA Women's Champions League". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Awst 2019.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.