Tom Hooson
Roedd Thomas (Tom) Ellis Hooson (16 Mawrth 1933 – 8 Mai 1985) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed o 1979 i 1985.[1].
Tom Hooson | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mawrth 1933 Y Rhyl |
Bu farw | 8 Mai 1985 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Bywyd personol
golyguGanwyd Hooson yn y Rhyl, Sir Ddinbych, yn fab i David Maelor Hooson, amaethwr, a Ursula (née Ellis) ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhyl a Choleg y Brifysgol Rhydychen. Cafodd ei alw i'r Bar yn Gray's Inn.
Roedd yn gefnder i'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol Emlyn Hooson; roedd y bardd I. D. Hooson yn hen ewyrth iddo.
Roedd yn ddi-briod.
Gyrfa
golyguBu'n gweithio ym myd y cyfryngau, cyhoeddi, hysbysebu a marchnata ym Mhrydain, UDA a Ffrainc fel cyfarwyddwr yng nghwmnïau Benton & Bowles a'r Periodical Publishers Association.
Bu hefyd yn gweithio i'r Blaid Geidwadol fel cyfarwyddwr cyfathrebu o 1976 i 1978.[2]
Sefydlodd y cylchgrawn Welsh Farm News ym 1957.
Gyrfa Wleidyddol
golyguSafodd yn aflwyddiannus fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Caernarfon ym 1959. Safodd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn etholiad 1979 gan gipio'r sedd oddi wrth Caerwyn Roderick a'r Blaid Lafur gan ddal y sedd hyd ei farwolaeth ym 1985
Marwolaeth
golyguBu farw ar ôl brwydr hir yn erbyn y cancr yn ei gartref yn Llundain ym 1985.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Mr Tom Hooson, MP." Times [London, England] 10 May 1985: 14. The Times Digital Archive, 1785-2009 adalwyd 1 Mai 2015 trwy docyn darllenydd LLGC
- ↑ ‘HOOSON, Tom (Ellis)’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [1],adalwyd 1 Mai 2015 trwy docyn darllenydd LLGC
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Caerwyn Roderick |
Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed 1979 – 1985 |
Olynydd: Richard Livsey |