Caerwyn Roderick

gwleidydd, undebwr llafur (1927-2011)

Roedd Caerwyn Eifion Roderick (15 Gorffennaf 192716 Hydref 2011) yn wleidydd Y Blaid Lafur ac yn Aelod Seneddol etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed[1]

Caerwyn Roderick
Ganwyd15 Gorffennaf 1927 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 2011 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Roderick yn Ystradgynlais yn fab i David Morgan Roderick ac Elizabeth Evans ei wraig. Cafodd ei drwytho yn niwylliant Cymreig a Chymraeg o oed cynnar iawn, gyda’i deulu yn aelodau blaenllaw yng Nghapel Bedyddwyr Ainon, Ystradgynlais.[2]

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Maes-y-Dderwen, Ystradgynlais a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.

Ymbriododd ac Eirlys Lewis ym 1952; bu iddynt un mab a ddwy ferch

Gyrfa golygu

Cyn dod yn Aelod Seneddol bu yn gweithio yn bennaf fel athro. Cafodd ei benodi yn athro mathemateg yn Ysgol Caterham, Surrey ym 1949 gan godi i bennaeth adran fathemateg yr ysgol ym 1952. Ym 1954 fe'i penodwyd yn bennaeth adran fathemateg Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberhonddu. Ym 1957 ymadawodd a byd addysg am gyfnod gan fynd i weithio fel Peiriannydd Astudiaethau Methodoleg i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Dychwelodd i'r dosbarth ysgol ym 1960 fel pennaeth adran fathemateg Ysgol Uwchradd Hartridge, Casnewydd. Ym 1969 cafodd ei benodi fel darlithydd yng Ngholeg Addysg Caerdydd gan ymadael a'r swydd honno ar adeg ei ethol ym 1970.[3]

Ar ôl ymadael a'r Senedd ym 1979 cafodd ei benodi yn Swyddog llawn amser yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) lle fu'n gweithio o 1980 hyd ei ymddeoliad ym 1991.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Safodd Roderick fel ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn etholiad cyffredinol 1970, fel olynydd i'r cyn AS Llafur Tudor Elwyn Watkins, gan lwyddo i gadw'r sedd hyd 1979 pan gollodd y sedd i'r ymgeisydd Ceidwadol Tom Hooson.[4]

Ym 1974 daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Eric Heffer, y Gweinidog Gwladol dros Ddiwydiant, yna i Tony Benn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwydiant ac o 1975 i Michael Foot yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyflogaeth.

Fel Aelod Seneddol roedd Roderick yn wrthwynebydd cryf i'r rhyfel yn Fietnam, i apartheid yn Ne Affrica ac i'r Farchnad Gyffredin. Roedd yn frwd o blaid hawliau a chyfleusterau i bobl anabl, amddiffyn yr Iaith Gymraeg a Datganoli i Gymru. Yn ei hunangofiant Dal Ati mae Dafydd Wigley yn clodfori Roderick fel y cefnogwyr mwyaf teyrngar i ddatganoli yn y Blaid Lafur yn ystod cyfnod Refferendwm 1979.

Wedi colli ei sedd seneddol cafodd Roderick ei ethol yn aelod o Gyngor De Morgannwg ym 1980 gan barhau yn gynghorydd hyd 1996. Yn wyneb llawer o wrthwynebiad gan gyd cynghorwyr Llafur bu'n pwyso'n galed am ehangu addysg Gymraeg yn y sir.[5]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Ysbyty Prifysgol Cymru yn 84 mlwydd oed, amlosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa'r Ddraenen, Caerdydd

Cyfeiriadau golygu

  1. "Caerwyn Roderick obituary", The Guardian, 7 Rhagfyr 2011 [1] adalwyd 3 Mai 2015
  2. "Cofio Caerwyn Roderick", Golwg 360, 19 Hydref, 2011 [2] adalwyd 3 Mai 2015
  3. "Roderick, Caerwyn Eifion", Who Was Who (online edn, Oxford University Press, 2014); online edn, April 2014 [3] adalwyd 2 Mai 2015]
  4. "Caerwyn", Blog Vaughan Roderick, 19 Hydref 2011 [4] Archifwyd 2015-05-03 yn Archive.is adalwyd 3 Mai 2015
  5. "Politicians with hinterland", Click on Wales (IWA) [5] Archifwyd 2015-09-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 3 Mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Tudor Watkins
Brycheiniog a Sir Faesyfed
19701979
Olynydd:
Tom Hooson