Emlyn Hooson
Gwleidydd, bargyfreithiwr a Chwnsler y Frenhines oedd Hugh Emlyn Hooson, y Barwn Hooson neu Yr Arglwydd Emlyn Hooson (26 Mawrth 1925 - 21 Mawrth 2012). Bu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Faldwyn rhwng 1962 ac 1979.
Emlyn Hooson | |
---|---|
Ganwyd |
26 Mawrth 1925 ![]() Dinbych ![]() |
Bu farw |
21 Chwefror 2012 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
barnwr, gwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr ![]() |
Swydd |
aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad |
Hugh Hooson ![]() |
Priod |
Shirley Margaret Wynne Hamer ![]() |
Plant |
Sioned Hooson, Lowri Hooson ![]() |
Bywyd Cynnar & AddysgGolygu
Ganwyd Hooson yng Ngholomendy, Sir Ddinbych, ar y 26 Mawrth, 1925. Mynychodd Ysgol Ramadeg Dinbych rhwng 1936-42, gan fynd ymlaen i ddechrau astudio'r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1943, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymunodd gyda'r Llynges Frenhinol, gan ddychwelyd i Aberystwyth a graddio gyda Ll.B yn 1948.[1]
Priododd Shirley Margaret Wynne Hamer yn 1950- merch Syr George a'r Foneddiges Hamer o Lanidloes, Powys.
Gyrfa GyfreithiolGolygu
Yn 1949 cafodd ei alw i'r bar yng Gray's Inn. 11 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1960, gwnaed yn Gwnsler y Frenhines, gan fynd ymlaen i ddod yn Ddirprwy Gadeirydd ar Sesiynau Chwarter Sir Fflint a Meirionydd (1960-71). Ef fu'n amddiffyn y llofrudd plant Ian Brady a garcharwyd yn 1966.
Daeth yn Gofnodwr ym Merthyr Tudful ac Abertawe yn 1971, gan hefyd gael ei ethol yn Gadeirydd Cylchdaith Cymru a Chaer rhwng 1971 a 1974.[1]
Gyrfa WleidyddolGolygu
Safodd Hooson fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Conwy yn Etholiad Cyffredinol 1950 a 1951.
Yn dilyn marwolaeth Aelod Seneddol Rhyddfrydol Maldwyn, Clement Davies yn 1962, dewiswyd Hooson fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol i ymladd yr is-etholiad. Gan ennill 13,181 o bleidleisiau, llwyddodd gadw'r sedd yn nwylo'r Blaid Ryddfrydol yn gyfforddus. Bu iddo ennill yn yr etholaeth eto yn 1964, 1966, 1970 a dau etholiad 1974, ond collodd yn 1979 i'r ymgeisydd Ceidwadol, Delwyn Williams- y tro cyntaf am gwta ganrif i'r etholaeth syrthio allan o ddwylo'r Blaid Ryddfrydol.[1]
Tra'n Aelod Seneddol dros Faldwyn, bu'n arweinydd y Blaid Ryddfrydol Gymreig rhwng 1966 a 1979. Bu iddo gystadlu am arweinydd Prydeinig y Blaid Ryddfrydol yn 1967, gan dynnu'n ôl mewn bri i Jeremy Thorpe.
Yn dilyn ei drechiad yn 1979, apwyntiwyd Hooson i'r Ty'r Arglwyddi fel Arglwydd am Oes, dan y teitl y Barwn Hooson o Drefaldwyn ym Mhowys, a Cholomendy yn Ninbych.
Bu'n Lywydd ar y Blaid Ryddfrydol Gymreig rhwng 1983 ac 1986.
Gyrfa FusnesGolygu
Yn ystod yr 1980au, daeth Hooson yn Gadeirydd Hafren/Severn Television mewn ymgyrch aflwyddiannus am freintiau darlledu ITV am Gymru a'r Gorllewin rhwng 1982-90.
Rhwng 1985 a 1995, daeth yn Gyfarwyddwr ar fusnes Laura Ashley, gan ddod yn Gadeirydd ar y busnes rhwng 1995 ac 1996. Rhwng 1991 ac 1999 roedd yn Gadeirydd ar Severn River Crossing plc.[1]
Anrhydeddu & MarwolaethGolygu
Daeth Hooson yn Gymar Anrhydeddus i Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1987. Yn yr un flwyddyn, daeth yn Lywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen- safle bu ddal tan 1993. Rhwng 1995 a 1998 daeth yn Lywydd Wales International. Yn 2001 bu'n Lywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych.[1]
Bu farw ar 21 Chwefror 2012. Bu farw ei wraig yr Arglwyddes Hooson ar 22 Ebrill 2018.[2]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Clement Davies |
Aelod Seneddol dros Faldwyn 1962 – 1979 |
Olynydd: Delwyn Williams |
Darllen PellachGolygu
- Morgan, Derec Llwyd. Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences. (Llandysul: Gomer: 2014)
CyfeiriadauGolygu
- Davies, Glyn (Ebrill 2012). Yr Arglwydd Hooson (1925-2012), Rhifyn 591. Barn