Tony Bianchi

ysgrifennwr (1952-2017)

Awdur, llenor a golygydd oedd Tony Bianchi (5 Ebrill 19522 Gorffennaf 2017)[1] a ddaeth yn Brif Lenor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015.

Tony Bianchi
Ganwyd5 Ebrill 1952 Edit this on Wikidata
North Shields Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 2017 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goffa Daniel Owen Edit this on Wikidata

Ganed Bianchi yn North Shields, Northumberland, addysgwyd ef yno ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan lle dysgodd yr iaith Gymraeg. Bu'n byw yn Llanbedr Pont Steffan, Cei Conna ac Aberystwyth am gyfnod cyn symud i Gaerdydd. Roedd yn bennaeth yr adran Lenyddiaeth yn Nghyngor Celfyddydau Cymru hyd 2002. Yn fwy diweddar, bu'n awdur llawrydd, ymgynghorydd, cyfieithydd, ac yn cynghori Cyngor Celfyddydau yr Alban.[2]

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2007 am ei lyfr Pryfeta a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015 am y nofel Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands. Cafodd ei lyfr Esgyrn Bach ei restru ar restr-hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf yn Saesneg, Bumping (Alcemi) yn Mai 2010 a fe'i dewiswyd i restr-hir Gwobr Portico.

Bywyd personol golygu

Roedd yn byw ym Mhontcanna, Caerdydd gyda'i gymar, Ruth. Roedd yn dad i ddwy ferch, ac yn dad-cu.

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Marw’r Prif Lenor Tony Bianchi , Golwg360, 2 Gorffennaf 2017.
  2.  Tony Bianchi 1952 – 2017. Llenyddiaeth Cymru (4 Gorffennaf 2017).