Torasgwrn Jones yw toriad rhwng sylfaen a chanol y pumed metatarsol yn y droed.[1] Arweinir at ymdeimlad o boen tua chanol y droed, ar y tu allan. Gall y cyflwr achosi cleisio ac anhawster wrth gerdded. Yn gyffredinol y mae'r boen yn datblygu'n sydyn.[2]

Torasgwrn Jones
Mathfoot fracture Edit this on Wikidata
Enw brodorolJones fracture Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Achosir toriad o'r fath gan gyfuniad o fysedd traed pwyntiedig a phlygiad troed i mewn.[3] Gall y symudiad hwn ddigwydd wrth i rywun newid cyfeiriad tra bod ei sawdl ar y ddaear, mae'n gyffredin felly ymysg dawnswyr, chwaraewyr tenis neu bêl-fasged.[4][5] Gwneir diagnosis fel arfer ar sail symptomau a chaiff ei gadarnhau gan belydr-x.


Fel rheol, cynigir triniaeth gychwynnol mewn cast ac argymhellir peidio â phwyso ar y droed am o leiaf chwe wythnos.[6] Os na welir gwellhad wedi'r cyfnod hwn, weithiau rhoddir cast arall am gyfnod o chwe wythnos. Ni cheir cyflenwad llewyrchus o waed yn yr ardal hon, ac o ganlyniad, nid yw'n hawdd gwella'r cyflwr yn llwyr a rhaid cynnig llawdriniaeth ar brydiau.[7] Disgrifiwyd y torasgwrn am y tro cyntaf ym 1902 gan y llawfeddyg orthopedig Robert Jones a ddatblygodd yr anaf ei hun wrth ddawnsio.[8][2]


Cyfeiriadau golygu

  1. Joel A. DeLisa; Bruce M. Gans; Nicholas E. Walsh (2005). Physical Medicine and Rehabilitation: Principles and Practice. Lippincott Williams & Wilkins. tt. 881–. ISBN 978-0-7817-4130-9. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-07. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 Valderrabano, Victor; Easley, Mark (2017). Foot and Ankle Sports Orthopaedics (yn Saesneg). Springer. t. 430. ISBN 9783319157351. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-15. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Dähnert, Wolfgang (2011). Radiology Review Manual (yn Saesneg). Lippincott Williams & Wilkins. t. 96. ISBN 9781609139438. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-15. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Mattu, Amal; Chanmugam, Arjun S.; Swadron, Stuart P.; Tibbles, Carrie; Woolridge, Dale; Marcucci, Lisa (2012). Avoiding Common Errors in the Emergency Department (yn Saesneg). Lippincott Williams & Wilkins. t. 790. ISBN 9781451152852. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-16. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Lee, Edward (2017). Pediatric Radiology: Practical Imaging Evaluation of Infants and Children (yn Saesneg). Lippincott Williams & Wilkins. t. Chapter 24. ISBN 9781496380272. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-15. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Bica, D; Sprouse, RA; Armen, J (1 February 2016). "Diagnosis and Management of Common Foot Fractures.". American Family Physician 93 (3): 183–91. PMID 26926612.
  7. "Toe and Forefoot Fractures". OrthoInfo - AAOS. June 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 October 2017. Cyrchwyd 15 October 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Jones, Robert (Jun 1902). "I. Fracture of the Base of the Fifth Metatarsal Bone by Indirect Violence.". Ann Surg 35 (6): 697–700. PMC 1425723. PMID 17861128. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1425723.