Torra d'Erbalunga
Mae Tŵr Erbalunga (Corseg:Torra d'Erbalunga) yn dŵr Genoa adfeiliedig ger Erbalunga wedi ei leoli yn commune Brando (Haute-Corse) ar arfordir dwyreiniol ynys Cap Corse, Corsica. Mae'n sefyll ar bwynt caregog ger mynediad deheuol porthladd Erbalunga.
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Brando |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.7736°N 9.47694°E |
Statws treftadaeth | heneb hanesyddol cofrestredig |
Manylion | |
Hanes
golyguRoedd twr yn sefyll yn Erbalunga ym 1488. Cafodd ei ddinistrio gan luoedd Ffrainc wrth iddynt ymosodiad ar Corsica ym 1553 fel rhan o'r rhyfel rhwng Ffrainc a'r Eidal 1551 - 1559 . Adferwyd y tŵr ym 1560 i fod yn un o'r gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Ar 24 Ionawr 1995 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[2]
Galeri
golyguGweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvr ages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 98, 111. ISBN 2-84050-167-8.
- ↑ "Monuments historiques: Torra d'Erbalunga". Ministère de la culture. Cyrchwyd 3 Awst 2018..
Dolenni allanol
golyguCyfryngau perthnasol Tŵr d'Erbalunga ar Gomin Wicimedia
- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses".[dolen farw] Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.