Torra di Capriona

Mae Tŵr Capriona neu Dŵr Porto Pollo (Corseg:Torra di Capriona) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Serra-di-Ferro ger pentref Porto Pollo ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Dim ond rhan o'r sylfaen sydd wedi goroesi.

Torra di Capriona
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau41.71°N 8.79°E Edit this on Wikidata
Map

Adeiladwyd y tŵr yn ail hanner yr 16 ganrif. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Mae'r tŵr yn sefyll ar fryn sydd â threm dros Porto Pollo. Mae rhan uchaf y tŵr wedi'i ddinistrio'n llwyr a'r unig beth sydd ar ôl yw ychydig o waliau'r sylfaen wedi eu gorchuddio a llystyfiant. Yn wreiddiol roedd y waliau yn frics coch wedi'u plastro â chalch.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.

Dolenni allanol golygu

  • Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-11. Cyrchwyd 2018-07-31. Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gorsica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.